Prifysgol Aberystwyth yn noddi Gwobrau’r Selar 2019
12 Chwefror 2019
Prifysgol Aberystwyth yw prif noddwr un o ddigwyddiadau mwyaf y sin roc Gymraeg sy’n cael ei gynnal yn Aberystwyth y penwythnos hwn.
Caiff Gwobrau’r Selar 2019 eu cynnal dros ddwy noson yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, ar nos Wener 15 a nos Sadwrn 16 Chwefror.
Dyma’r bumed flwyddyn i’r Brifysgol fod yn brif noddwr y digwyddiad a fydd yn cynnwys perfformiadau gan Mellt, Y Cledrau, Gwilym, Mei Gwynedd, Breichiau Hir ag eraill.
Yn ogystal, y Brifysgol yw noddwr gwobr Band Gorau Gwobrau’r Selar 2019. Y tri enw sydd ar y rhestr fer yw Y Cledrau, Mellt a Gwilym.
Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno gan Gwenno Nefydd Huws, ar ran Pwyllgor Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth - UMCA.
Un o’r uchafbwyntiau eleni fydd cyflwyno gwobr Cyfraniad Arbennig i Mark Roberts a Paul Jones, gynt o Y Cyrff ac yna’n ddiweddarach Catatonia, ar y nos Wener.
Fel rhan o’r dathliad, bydd artistiaid y noson yn perfformio cyfyr o un o’u caneuon.
“Pleser yw croesawu Gwobrau’r Selar yn ôl i gampws y Brifysgol eto eleni,” meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg, Diwylliant Cymru a Chysylltiadau Allanol, Prifysgol Aberystwyth. “Mae’n ddigwyddiad enfawr yn y calendr cerddoriaeth Gymraeg ac yn gyfle penigamp i ddathlu creadigrwydd, amrywiaeth a gwaith caled pawb sy’n rhan o’r sîn roc.”
Dywedodd Anna Wyn Jones, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA): “Mae Gwobrau’r Selar yn un o uchafbwyntiau calendar UMCA ac mae’n wych fod y Brifysgol yn noddi. Mae’n ddigwyddiad hynod o bwysig i bobl ifanc Cymru, a dwi’n falch o’i weld yn dychwelyd i Aberystwyth.”
Bydd defnyddwyr Snapchat sy'n ymweld â'r digwyddiad yn medru defnyddio ‘ffilter’ Snapchat arbennig Gwobrau’r Selar, unrhyw fan yn adeilad Undeb y Myfyrwyr.
Bydd y drysau’n agor am 7yh ar y nos Wener, ac am 6.30yh ar y nos Sadwrn.
Mae rhagor o wybodaeth am Wobrau’r Selar 2019 ar lein yma ac mae mynediad drwy docyn yn unig.