Myfyrwyr Aber yn gwirfoddoli ac yn cyfrannu at eu cymuned leol
Mae dros 500 o fyfyrwyr yn gwirfoddoli’n rheolaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn cyfrannu dros 1500 awr yr wythnos
08 Chwefror 2019
Glanhau traethau, lleihau gwastraff bwyd, taclo unigrwydd a chynnal arolwg o fywyd gwyllt y môr, dyma rai o’r cyfleoedd i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wneud cyfraniad yn eu cymuned leol fel rhan o ymgyrch genedlaethol gwirfoddoli myfyrwyr rhwng 11-17 Chwefror 2019.
Bellach yn ei 18fed mlynedd, mae Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr yn ddathliad saith niwrnod o weithgareddau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Y nod yw annog myfyrwyr prifysgol i wirfoddoli yn eu cymunedau lleol, a datblygu sgiliau newydd wrth ffurfio partneriaethau gweithredu cymdeithasol allweddol rhwng eu prifysgol a’r gymuned leol.
Er mwyn nodi’r achlysur, mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth (UMAber) wedi trefnu wythnos lawn o ddigwyddiadau.
Gall y myfyrwyr sydd am wirfoddoli yn ystod yr wythnos weithio ar safle Gwarged Bwyd Aberystwyth, adnewyddu pwll dŵr hwyiaid mewn perygl yn Sŵ Borth, cynnal arolwg ar ddolffiniaid ag anifeiliaid eraill sydd yn Harbwr Aberystwyth gyda Canolfan Bywyd Gwyllt y Môr Bae Ceredigion.
Bydd cyfleoedd hefyd i lanhau traeth Tan-y-Bwlch, gwau gyda’r henoed fel rhan o brosiect goresgyn unigrwydd Age UK a gwirfoddoli yn Parkrun Aberystwyth.
Mae dros 500 o fyfyrwyr yn gwirfoddoli’n rheolaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn cyfrannu dros 1500 awr yr wythnos mewn amryw o sefyllfaoedd – o gynnal cymdeithasau a chlybiau chwaraeon i Nightline a gwasanaeth Ambiwlans Sant Ioan.
Mae gwefan UMAber yn cynnal system ‘nodi oriau’ i fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli er mwyn iddynt gadw cofnod o’r oriau maent wedi’u cyfrannu.
Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyriwr Prifysgol Aberystwyth: “Mae myfyrwyr yn dod i Aberystwyth i astudio oherwydd y cyrsiau rydym yn eu cynnig a’n rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil. Wedi iddynt gyrraedd, maent yn dod yn ran o’r gymuned arbennig sydd yma – ac mae gwirfoddoli’n ffordd o wneud cyfraniad at y lle sydd yn gartref iddynt, yn ogystal â dysgu sgiliau newydd gwerthfawr.”
Dywedodd Amy Goodwin, Cydlynydd Academaidd a Gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr: “Dyma’r ail dro i ni gymryd rhan yn Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr (SVW) ac rydym yn hynod falch o fedru cydweithio gydag amryw o sefydliadau lleol i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli un-dydd trwy gydol yr wythnos. Mae SVW yn gyfle gwych i hyrwyddo gwirfoddoli a chymryd rhan. Mae’n gyfle gwych hefyd i gydnabod cyfraniad y myfyrwr sy’n rhoi o’u hamser i wirfoddoli yn Aberystwyth trwy gydol y flwyddyn.”