Llwyddiant ym myd llaeth i fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth
Steffan Rees ail o’r chwith gyda’r ail wobr yng nghystadleuaeth Myfyrwiwr Llaeth yr RABDF 2019
08 Chwefror 2019
Myfyriwr amaeth o Brifysgol Aberystwyth yw un o’r myfyrwyr llaeth gorau yn y DU yn ôl y Gymdeithas Frenhinol Ffermwyr Llaeth Prydeinig – RABDF.
Cyhoeddwyd mai Steffan Rees o Lanarth, Ceredigion ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Myfyriwr Llaeth yr RABDF 2019 yng nghynhadledd Dairy-Tech yn Stoneleigh yr wythnos hon.
Mae cystadleuaeth Myfyriwr Llaeth RABDF, sy’n cael ei noddi gan Mole Valley Farmers, yn cael ei ddyfarnu'n flynyddol ers 1991, ac yn denu ceisiadau o golegau amaethyddol a Phrifysgolion ledled y DU a Gogledd Iwerddon.
Mae'r gystadleuaeth yn adlewyrchu'r angen i ffermwyr llaeth heddiw ddeall y diwydiant, ei gryfderau a'i wendidau, a'r ffordd orau o gymhwyso dulliau ffermio i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl.
Daw Steffan o linach hir o ffermwyr llaeth a bu ei dad yn fyfyriwr yng Ngholeg Amaethyddol Cymru, sydd bellach yn rhan o Brifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Iwan Owen, Darlithydd Amaethyddiaeth yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS): “Llongyfarchiadau mawr i Steffan am y llwyddiant eithriadol hwn. O gychwyn y gystadleuaeth, roedd Steffan yn cystadlu yn erbyn myfyrwyr gorau Prydain, sy’n adlewyrchu safon uchel ein darpariaeth ni yma yn Aberystwyth.
“Roedd Steffan yn fyfyriwr Gradd Sylfaen ardderchog, ac mae bellach yn ei drydedd flwyddyn gyda ni yn astudio BSc Amaethyddiaeth.
“Bu wastad yn angerddol ynglŷn â chynhyrchu llaeth, ac mae wedi cael profiad gwerthfawr yn gweithio gydag un o hyrwyddwyr mwyaf blaenllaw Ceredigion dros gynhyrchu llaeth trwy laswellt, y ffermwr Alan Jones. "
Roedd rownd gyntaf y gystadleuaeth yn seiliedig ar lunio adroddiad ar gyfrifon fferm laeth.
Ar gyfer yr ail rownd, roedd Steffan yn un o 5 o fyfyrwyr a ddewiswyd ac a wahoddwyd i roi cyflwyniad ar 'Y diwydiant llaeth ymhen 10 mlynedd' yn y Farmers Club yn Llundain fis Rhagfyr y llynedd.
Yn dilyn y cyflwyniadau, ac am y tro cyntaf, eleni gwahoddwyd y myfyrwyr a'u darlithwyr i ginio gyda Llywydd yr RABDF, Yr Arglwydd Don Curry, a chyhoeddi enwau'r ddau i gyrraedd y rownd derfynnol yn Nhŷ'r Arglwyddi; ac yna taith o gwmpas San Steffan.
Dywedodd Steffan: “Roeddwn wrth fy modd gyda'r newyddion ym mod wedi cyrraedd y rownd gyn-derfynol yn Llundain, a phan gefais wybod ym mod wedi ennill fy lle yn y rownd derfynol yn Dairy Tech, fe wnaeth y gwaith i gyd yn werth chweil.
“Yn amlwg, roedd cyrraedd y rownd derfynol yn anrhydedd mawr imi ac mae’n rhaid imi ddiolch i'r Brifysgol am y cyfle a'r gefnogaeth barhaus, yn enwedig gan ddarlithydd y Coleg Cymraeg, Manod Williams, sydd wedi bod yn wych trwy gydol y broses gyfan.
“Rwy'n hynod frwd dros ffermio a llaeth yn arbennig, ac mae hynny’n dilyn cenedlaethau o ffermio trwy'r teulu.
“Rydym yn ffermio llaeth a defaid adref ac mae dod i'r brifysgol a chael y profiad hwn wedi bod yn wych o ran gweld a deall beth sy'n digwydd y tu hwnt i giât y fferm, yn ogystal â chwrdd â chymaint o wahanol bobl yn y diwydiant.
“Rwy'n edrych ymlaen at raddio eleni gobeithio a mynd adref i'r fferm, ochr yn ochr â rhai pethau eraill megis teithio ac efallai chwilio am swydd rhan amser yn y diwydiant.
“Rwy'n mwynhau'r sector llaeth yn fawr iawn, a gyda chymaint o newidiadau a heriau, rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod y genhedlaeth iau yn casglu gwybodaeth a phrofiadau o bob math er mwyn goroesi a bod yn broffidiol yn y dyfodol.
“Rwy'n credu bod gan y sector llaeth ddyfodol disglair wedi Brexit, ond credaf fod angen inni wella ein sgiliau marchnata a chyfathrebu er mwyn sicrhau’r defnydd o laeth, a chefnogaeth i’r diwydiant dros y blynyddoedd i ddod.
“Mae Dairy-Tech yn gyfle cyffrous i weld syniadau'r dyfodol yn dod at ei gilydd mewn un lle.”
Hefyd yn Dairy-Tech, dyfarnwyd Gwobr Rheoli Iechyd Fferm RABDF, sydd yn cael ei noddi gan Volac, i ddwy fyfyrwraig 3ydd blwyddyn IBERS sy’n astudio BSc Biowyddorau Milfeddygol.
Bu Ceri Davies (enillydd) a Becky Thomas (ail) yn llwyddiannus gyda'u traethodau ar Bioddiogelwch a Gwrthsefyll Gwrthficrobaidd.