Cymhellion ariannol ar gyfer ymarfer dysgu

Ystafell ddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ystafell ddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth

30 Ionawr 2019

Mae Cyfarwyddwr yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd y cymhellion ariannol presennol ar gyfer hyfforddi athrawon yn cael eu hymestyn i'r flwyddyn academaidd 2019-20.

Wrth ymateb i benderfyniad y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, dywedodd yr Athro Malcolm Thomas mai dyma’r amser delfrydol i ddechrau ar yrfa fel athro.

"Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n graddio eleni neu eisoes yn gweithio ac yn ystyried newid gyrfa, ni fu erioed amser gwell i ystyried dysgu fel gyrfa, o gofio’r datblygiadau cyffrous sy'n digwydd yng Nghymru," meddai'r Athro Thomas.

"Nawr yw'r amser i hyfforddi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd arloesol yng Nghymru. Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr addysgu y tu hwnt i ffiniau er mwyn cael profiad sy’n cwmpasu’r cynradd a’r uwchradd."

O Fedi 2019, bydd yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu Tystysgrif Addysg newydd i Raddedigion, gan gynnig dau lwybr tuag at Statws Addysgu Cymwysedig:

  1. Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) Cynradd gydag Ategiad Uwchradd

  2. TAR Uwchradd gydag Ategiad Cynradd

Bydd y cyrsiau, sydd ar gael yn Aberystwyth ar gyfer mynediad yn 2019, yn arloesol ac yn darparu'r sylfaen gywir o sgiliau i fyfyrwyr addysgu ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd.

Bydd myfyrwyr sy'n dewis dilyn y cwrs TAR Cynradd yn cael profiad o addysgu mewn ysgol uwchradd, tra bydd y rhai sy'n dewis y TAR Uwchradd hefyd yn cael profiad o addysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd.

Ychwanegodd yr Athro Thomas: "Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am gymhellion ariannol estynedig ar gyfer mynediad 2019-20 a'r eglurhad diweddar o ofynion mynediad TGAU yn rhoi gwell cyfleoedd a chefnogaeth i fyfyrwyr ystyried hyfforddi fel athrawon."

Mae'r newidiadau i'r gofynion mynediad TGAU ar gyfer ymgeiswyr TAR, er mwyn cefnogi fframwaith llythrennedd a rhifedd Llywodraeth Cymru, yn golygu bod yn rhaid i fyfyrwyr fod wedi cyrraedd safon cyfwerth â gradd B mewn o leiaf un o'r arholiadau TGAU canlynol:

  • Saesneg Iaith

  • Llenyddiaeth Saesneg

  • Cymraeg Iaith (iaith gyntaf)

  • Llenyddiaeth Cymraeg

Lle mae gan ymgeisydd gymhwyster cyfwerth â gradd B mewn naill ai Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid ennill o leiaf gradd C yn yr arholiad TGAU cyfatebol yn  Saesneg neu Gymraeg Iaith (gyntaf). Rhaid hefyd cael gradd B yn yr arholiad TGAU ar gyfer Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd.

Mae'r cymhellion ariannol sydd ar gael i ôl-raddedigion sy'n dechrau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yn 2019-20 yn anelu at ddenu'r graddedigion gorau i ddysgu pynciau sy’n flaenoriaeth fel mathemateg, cemeg, ffiseg, cyfrifiadureg ac ieithoedd tramor modern.

Bydd Iaith Athrawon Yfory, y cynllun cymhelliant sy'n cynnig hyd at £5,000 i hyfforddi i fod yn athro addysg uwchradd yn Gymraeg, hefyd yn parhau yn 2019-20. Gall Iaith Athrawon Yfory gael ei ddefnyddio ochr yn ochr â'r cymhellion ar gyfer pynciau â blaenoriaeth sy'n creu cymhelliant hyd at uchafswm o £25,000.

Mae'r arian ar gael ar gyfer myfyrwyr graddedig ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn y pynciau canlynol:

  • Hyd at £20,000 ar gyfer mathemateg, ffiseg, cemeg, Cymraeg neu gyfrifiadureg

  • Hyd at £15,000 ar gyfer ieithoedd tramor modern

  • £3,000 i raddedigion sydd â gradd dosbarth cyntaf neu radd meistr neu ddoethuriaeth i addysgu pob un o'r prif bynciau eraill yn y sector uwchradd a’r sector cynradd

  • £3,000 atodol i raddedigion sydd â gradd dosbarth cyntaf, Meistr neu PhD sy'n ymgymryd ag astudiaethau TAR cynradd sydd ag arbenigedd pwnc mewn Cymraeg, Saesneg, mathemateg neu wyddoniaeth.

Mae'r cymhellion uchaf eu gwerth ar gael i raddedigion sy'n astudio cwrs Addysg Gychwynnol Athrawon yn y meysydd â blaenoriaeth ac sydd â gradd dosbarth cyntaf neu radd meistr neu ddoethuriaeth. Mae cymhellion eraill ar gael i raddedigion â graddau 2:1 a 2:2.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs TAR ym Mhrifysgol Aberystwyth, cysylltwch gyda’r Ysgol Addysg ar 01970 622103 neu www.aber.ac.uk/addysg.