Ysgoloriaeth newydd yn dathlu llwyddiannau chwaraeon
Christopher Cassells, enillydd Gwobr Teilyngdod Chwaraeon ac un a gynrychiolodd Cymru yn Euronations 2018.
28 Ionawr 2019
Mae enillwyr cyntaf gwobr chwaraeon newydd sydd yn cydnabod llwyddiannau chwaraeon myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi eu cyhoeddi.
Mae Gwobr Teilyngdod Chwaraeon yn cydnabod myfyrwyr sydd wedi rhagori yn eu disgyblaeth a’u cyfraniadau i glybiau a chymdeithasau chwaraeon y Brifysgol.
Arianwyd y wobr gan alumni’r Brifysgol drwy Gronfa Aber, ac mae’n gyfle i fyfyrwyr amlygu eu llwyddiannau ac yn eu cefnogi gyda’u gweithgareddau ac astudiaethau chwaraeon yn y flwyddyn sydd i ddod.
Cafodd 41 o geisiadau eu hystyried gan banel o gynrychiolwyr o’r Brifysgol ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, a’r enillwyr eleni yw Christopher Cassells (Saethyddiaeth), James Coulton (Rygbi) a Zenan Ibrahim (Pŵl).
Mae Christopher Cassells yn astudio Marchnata gyda Rheolaeth ac ef yw pencampwr dan do ac awyr agored BUCS (British Universities & Colleges Sport) 2018. Cynrychiolodd Gymru yn Euronations 2018 gan orffen yn bumed yn y gystadleuaeth unigol a’r ail safle i dimoedd. Mae’n ddeiliad 8 record Gymreig ac 1 yn DU.
Dywedodd Chris am ei wobr: “Bydd y wobr yn fy ngalluogi i fuddsoddi mewn offer, hyfforddi a chystadlu er mwyn gallu cyrraedd y lefel uchaf posib a chyflawni fy amcanion ar gyfer tymor 2019. Fy mhrif darged ar gyfer 2019 yw cyrraedd sgor 700 yn y 50 metr a bod y cyntaf i saethu 600 mewn rownd Portsmouth. Bydd hyn yn gymorth i gyrraedd tîm Prydain Fawr.”
Myfyriwr y Gyfraith yw James Coulton, ac mae’n gapten ar dîm rygbi cyntaf y Brifysgol ac wedi cynrychioli’r Brifysgol gyda’r Welsh Academicals. Mae James hefyd yn hyfforddi timoedd eraill yn y Brifysgol.
Busnes yw pwnc Zenan Ibrahim, sydd yn gyd-sylfaenydd Clwb Pŵl Prifysgol Aberystwyth. Mae’n gapten ar y clwb ers dwy flynedd ac ef yw’r Llywydd presennol. Arweiniodd tîm pŵl y Brifysgol at fuddugoliaeth ym Mhencampwriaethau Prifysgolion Cymru ac fe gynrychiolodd myfyrwyr Prifysgolion Cymru yn yr Homenation yn Aberdeen yn 2017.
Dywedodd Zenan: “Mae derbyn Gwobr Teilyngdod Chwaraeon yn hynod gyffrous ac ysgogol. Cefais gyfle i chwarae i dîm Myfyrwyr Cymru’r llynedd gan golli yn y gêm derfynol. Fy mwriad yw cael fy newis eto eleni a cheisio ennill y tro hwn. Rwyf hefyd yn cymryd rhan yn BUCS eleni, profiad newydd ac un rwy’n edrych ymlaen ato’n fawr.”
Dywedodd Louisa Fletcher, Swyddog Cyfleoedd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ac aelod o’r panel dewis: “Mae’r tri myfyriwr sydd wedi eu dewis i dderbyn Gwobr Teilyngdod Chwaraeon yn amlygu’r doniau sydd gennym ar draws clybiau chwaraeon y Brifysgol. Drwy gymorth Cronfa Aber, gallwn wobrwyo eu gwaith caled a’u hymroddiad i glybiau chwaraeon a myfyrwyr Aberystwyth. Mae’r hyn maent wedi ei gyflawni yn rhagorol a dymunaf bob lwc iddynt i’r dyfodol.”
Dywedodd Dylan Jones, Rheolwr Cyswllt Alumni a Rhoddion Unigol: “Rydym yn hynod ddiolchgar am haelioni a chefnogaeth barhaus ein cyn-fyfyrwyr i Gronfa Aber, ac mae gan lawer ohonynt atgofion da o’u cyfnod fel aelodau o glybiau chwaraeon tra’n Aber. Mae Cronfa Aber wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau sy’n cyfoethogi profiad y myfyriwr yn uniongyrchol ac yn creu cyfleoedd newydd. Drwy ariannu Gwobr Teilyngdod Chwaraeon mae’n alumni yn cydnabod ac yn cynorthwyo rhai o unigolion mwyaf dawnus Aber i gyflawni eu potensial.”
Mae enillwyr Gwobr Teilyngdod Chwaraeon yn derbyn £500 yr un. Bydd y broses ymgeisio yn ail-agor ym mis Medi 2019.