Lansio ysgoloriaeth er cof am Emily Price
Emily Price
23 Ionawr 2019
Bydd angerdd ac ymroddiad myfyrwraig ifanc wrth hyrwyddo rôl menywod mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn cael ei goffáu gydag ysgoloriaeth newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ymunodd Emily Price o Huntingdon yn Swydd Caergrawnt â Phrifysgol Aberystwyth yn 2014 i astudio mathemateg a ffiseg.
Yn anhymyg, bu farw Emily ym mis Mai 2017 yn fuan wedi iddi gael ei hethol i Gyngor Tref Aberystwyth. Cyflwynwyd gradd ar ôl marwolaeth iddi ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn.
Yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig yn Aberystwyth, gwirfoddolodd fel llysgennad myfyrwyr a bu'n gweithio ar ddigwyddiadau allgymorth yn y Brifysgol ac mewn ysgolion a gŵyliau.
Sefydlwyd Ysgoloriaeth Emily Price gan ei theulu gyda chyfraniadau gan ffrindiau a theulu ac mae wedi ei hanelu at fenywod sydd yn gwneud cais i astudio mathemateg a/neu ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth o fis Medi 2019.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am yr ysgoloriaeth gyntaf, sydd yn werth £500, yw dydd Iau 31 Ionawr 2019.
Dywedodd rhieni Emily, Natasha a John Price: “Roedd Emily yn fenyw ifanc angerddol, ofalgar a gweithgar.”
“Ysgoloriaeth Emily Price yw ein ffordd ni o gofio am ein merch a sicrhau bod ei hangerdd a'i hymroddiad yn parhau. Fel ei rhieni, roeddem yn falch iawn o Emily a’r hyn a gyflawnodd cyn ei marwolaeth anhymyg a thorcalonnus.
“Un maes yr oedd Emily wedi ymroi ei hun iddo oedd creu prosiectau a fyddai'n sbarduno cenedlaethau'r dyfodol i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y gwyddorau, technoleg, peirianneg a mathemateg - STEM. Yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Aberystwyth, roedd Emily yn gyfranwr gweithgar ar brosiectau allgymorth oedd yn tynnu sylw at, a chynyddu cyfranogiad yn y pynciau STEM.
“Rydym yn falch o gefnogi Ysgoloriaeth Emily Price i fenywod ifanc sydd yn gwneud cais i astudio mathemateg a ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ysgoloriaeth Emily Price yw ein ffordd ni o anrhydeddu ein merch a’n gobaith yw y bydd creu’r ysgoloriaeth hon yn cynorthwyo i barhau’r gwaith a ddechreuwyd gan Emily yn Aberystwyth.
“Heb amheuaeth, byddai Emily wedi parhau i fod yn ysbrydoliaeth i bobl o'i chwmpas. Wrth greu'r ysgoloriaeth hon, ein dymuniad yw na fydd rhywfaint o'r da y byddai hi wedi ei wneud yn cael ei golli, ac y bydd menywod ifanc yn derbyn cefnogaeth ac anogaeth i barhau gyda’r gwaith a llwyddo mewn pynciau STEM yn eu hastudiaethau a'u gwaith.
“Rydym, fel teulu, wedi’n cyffwrdd â'r holl roddion sydd wedi gwneud yr ysgoloriaeth hon yn bosibl; mae'n dystiolaeth o'r effaith a gafodd Emily ar y rhai yr oedd hi'n eu hadnabod. Daeth rhoddion gan ffrindiau, teulu a hefyd pobl oedd wedi adnabod Emily am gyfnodau byr yn unig.
“Byddai gwybod bod yna ysgoloriaeth i gyd-fyfyrwyr Aberystwyth yn arddel ei henw yn destun balchder mawr i Emily, a byddai’n rhyfeddu at yr effaith a gafodd ac y bydd yn parhau i wneud.”
Mae rhagor o wybodaeth am Ysgoloriaeth Emily Price, gan gynnwys sut i wneud cais, ar gael ar-lein yma.