Agor yr enwebiadau am wobrau'r staff a'r myfyrwyr

Adran Mathemateg a enillodd deitl Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Dathlu Staff a Myfyrwyr yr Undeb yn 2018

Adran Mathemateg a enillodd deitl Adran y Flwyddyn yng Ngwobrau Dathlu Staff a Myfyrwyr yr Undeb yn 2018

16 Ionawr 2019

Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi dechrau enwebu staff a myfyrwyr ar gyfer gwobrwyon blynyddol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Dyma wythfed flwyddyn y Gwobrau hyn, a drefnir gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth gyda chefnogaeth gan y Brifysgol. Maent yn cynnig y cyfle i roi amlygrwydd i ddoniau dysgu rhagorol y staff, ac i gydnabod y cyfraniad a wneir gan y staff a'r myfyrwyr tuag at brofiad y myfyrwyr. 

Gwahoddir y myfyrwyr i gydnabod y staff a'u cyd-fyfyrwyr drwy enwebu unigolion neu adrannau am un o'r pedair gwobr ar ddeg.

Dyma'r categorïau ar gyfer gwobrau 2019:

  • Darlithydd y Flwyddyn
  • Aelod Staff Ategol / Gwasanaeth y Flwyddyn
  • Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn
  • Myfyriwr-wirfoddolwr y Flwyddyn
  • Swyddog Gwirfoddol y Flwyddyn
  • Myfyriwr-fentor y Flwyddyn
  • Goruchwyliwr y Flwyddyn
  • Adran y Flwyddyn
  • Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg
  • Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn
  • Tiwtor Personol y Flwyddyn
  • Gwobr Adborth Eithriadol
  • Gwobr Cam Nesaf
  • Gwobr Arwain Cydraddoldeb

Gall y panel hefyd ddewis dyfarnu gwobr Canmoliaeth Arbennig i gydnabod gwaith eithriadol aelod o gymuned y Brifysgol sydd wedi cyfrannu at brofiad y myfyrwyr os nad yw'n dod o fewn un o'r categorïau eraill.

Gan sôn am lwyddiant y Gwobrau, dywedodd Meg Hatfield, Swyddog Materion Academaidd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: "Mae ein Gwobrau Staff a Myfyrwyr yn gyfle penigamp i gydnabod gwaith caled a llwyddiannau'r staff a'r myfyrwyr fel ei gilydd dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddod â chymuned y Brifysgol at ei gilydd i rannu ein llwyddiannau a'u dathlu."

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor (Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyriwr): "Mae Gwobrau Staff a Myfyrwyr yr Undeb wedi dod yn rhan bwysig o galendr y Brifysgol erbyn hyn. Mae'r noson yn dathlu ymarfer da, yn rhoi inni gyfle i gydnabod a dathlu staff a myfyrwyr sy'n mynd yr ail filltir, sy'n golygu bod profiad myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn rhagorol ac yn trawsnewid eu bywydau.

"Gallai'r rhai a enwebir fod yn ddarlithwyr sy'n fwrlwm i gyd ac sy'n trosglwyddo eu cariad at eu pwnc i'w myfyrwyr; y Cynrychiolydd Academaidd sy'n sicrhau eu bod yn lleisio barn pob myfyriwr ar y cwrs; y tiwtor personol sydd ag awch dros helpu eu myfyrwyr a sicrhau eu bod yn cael yr amser gorau posib yn y brifysgol; neu aelodau o staff sy'n helpu i lunio uchelgeisiau'r myfyrwyr at y dyfodol a'u helpu i wireddu eu potensial."

Os hoffai myfyrwyr enwebu rhywun, gallent wneud hynny yn: https://www.abersu.co.uk/celebrate/.  Daw cyfnod yr enwebiadau i ben ar ddydd Gwener, 1 Mawrth 2019.

Cyhoeddir enwau'r enillwyr mewn noson arbennig yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth ar 2 Ebrill 2019.