Dyfarnu Cymrodoriaeth Ymchwil Fawr Leverhulme i academydd o Aberystwyth
Yr Athro Björn Weiler o Adran Hanes a Hanes Cymru, hanesydd cyfnod yr oesoedd canol yn Ewrop.
14 Ionawr 2019
Mi fydd astudiaeth newydd gan hanesydd o Brifysgol Aberystwyth yn edrych ar sut y bu i ardaloedd gwahanol ar draws Ewrop fynd ati i lunio hanesion tebyg dros 800 mlynedd yn ôl.
Bydd yr Athro Björn Weiler o Adran Hanes a Hanes Cymru yn astudio ysgrifau a gynhyrchwyd dros gyfnod o 200 mlynedd ac yn ystyried ffenomen a welodd gymunedau yn ysgrifennu eu straeon ac yn sôn am y nodweddion oedd yn eu gosod ar wahân i'w cymdogion agosaf.
Bydd llythyron, croniclau, bywydau’r seintiau, pensaerniaeth a darganfyddiadau archeolegol ymysg ffynonellau’r Athro Weiler, sy’n arbenigwr ar hanes Ewropeaidd yn yr oesoedd canol.
Mae’r gwaith yn cael ei ariannu gan Gymrodoriaeth Ymchwil Fawr gan Ymddiriedolaeth Leverhulme.
“Yn ystod tri chyfnod penodol yn yr oesoedd canol - y blynyddoedd 1100 i 1130, 1180 i 1210 a 1250 i 1280 - aeth gwahanol ranbarthau yn Ewrop ati i ysgrifennu eu hanes ar hyn oedd yn eu gwneud yn wahanol,” dywedodd yr Athro Weiler.
“Datblygwyd y straeon hyn yn annibynnol o’i gilydd, ac eto gwelir eu bod wedi datblygu’r un mecanweithiau a delfrydau ar gyfer ysgrifennu am natur unigryw eu cymunedau.”
“Pam felly y bu i bobl yn Nenmarc, Gwlad Pwyl neu Norwy ddechrau ysgrifennu hanes eu cymunedau fwy neu lai yn yr un ffordd, fwy neu lai’r un pryd, ac i bwy?”
“Yr hyn sy'n hynod ddiddorol yng nghylch hyn yw eu bod yn cysylltu yn ôl i Rufain, neu o leiaf i’r cynfyd, i'r un syniadau a’r un disgwyliadau am yr hyn ddylai cymuned fod.”
“Maent yn ddelfrydau gwleidyddol a diwylliannol, ac i raddau yn cydymffurfio â syniad traws-Ewropeaidd. Felly mae'r Daniaid yn nodedig oherwydd mai nhw yw’r Cristnogion gorau, y mwyaf rhyfelgar, ac yn well hyd yn oed na’r Rhufeiniaid. Y Pwyliaid yw'r Cristnogion gorau oherwydd mai nhw yw’r mwyaf rhyfelgar, y mwyaf addysgedig, ac yn y blaen.”
Ar bob cam, byddai awduron yn ail-lunio, ailysgrifennu ac yn ail-greu’r hanes hwn o’r tarddiad. Cyflwynwyd themâu newydd, ac ychwanegwyd gwybodaeth newydd a fyddai’n adlewyrchu newidiadau diwylliannol, gwleidyddol a chrefyddol ehangach.
Bydd yr Athro Weiler hefyd yn edrych ar yr hyn y mae'r chwedlau a'u hailysgrifennu yn ei ddweud wrthym am sut yr oedd cymunedau'n delio â newid cyflym a dwys.
Ychwanegodd yr Athro Weiler: "Mae’r modd yr ymgorfforwyd newid, yn ei dro, hefyd yn taflu goleuni ar densiwn pwysig rhwng normau ac arferion Ewropeaidd cyffredin, a'r awydd i fod yn wahanol. Mae'r tensiwn hwn yn thema sy’n codi’n gyson yn hanes Ewrop, ond y cyfnod rhwng 1100 a 1300 hefyd yw'r tro cyntaf i ni gael digon o dystiolaeth i allu ei olrhain.
"Yr hyn sy'n gwneud y testunau canoloesol hyn hyd yn oed yn bwysicach yw’r modd y cawsant eu codi a’u hymgorffori i naratifau modern o genedligrwydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Maent yn parhau i ffurfio sut mae cenhedloedd modern yn gweld eu hunain, a sut mae cenedligrwydd modern yn cyfiawnhau ei hun.
“Mae'r gwaith hwn yn berthnasol oherwydd ei safbwynt traws-Ewropeaidd. Yn oes Brexit a thwf mudiadau cenedlaetholgar poblogaidd dros y 10-15 mlynedd diwethaf gydag ethol Trump, Modi yn India, Bolsonaro ym Mrasil ac Orbán a chynghrair Fidesz-KDNP yn Hwngari, mae yna atseiniau cyfoes amlwg a bydd yn gymorth i osod y rhain mewn cyd-destun hanesyddol ehangach.”
Tyfodd y prosiect o lyfr sydd ar fin ei gyhoeddi gan yr Athro Weiler ar y syniad o frenhiniaeth yn Ewrop yn yr oesoedd canol, a sut yr oedd pŵer gwleidyddol yn gweithio rhwng y blynyddoedd 950 a 1250.
Mae'r Athro Weiler yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, ac wedi bod yn gymrawd ymweld ym mhrifysgolion Harvard, Caergrawnt, Bergen (Norwy) a Freiburg (yr Almaen), yn ogystal â Phrifysgol Chapel Hill Gogledd Carolina.
Dyfarnwyd £155,000 iddo gan Ymddiriedolaeth Leverhulme ar gyfer yr astudiaeth tair blynedd, a fydd yn dechrau ym mis Medi 2019.