Cyfrol newydd yn esbonio arwyddocâd lle ym marddoniaeth Keats
Yr Athro Richard Marggraf Turley
05 Rhagfyr 2018
Mae llyfr newydd a olygwyd gan academydd o Aberystwyth yn edrych ar leoliadau arwyddocaol ledled Prydain a siapiodd farddoniaeth y bardd Rhamantaidd o Loegr, John Keats.
GolygwydKeats's Places gan Richard Marggraf Turley, Athro Llenyddiaeth Ramantaidd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn ei gyflwyniad i‘r llyfr, mae’r Athro Marggraf Turley yn herio’r farn gyffredin bod natur ymddangosiadol ddigyfnewid barddoniaeth Keats yn awgrymu nad yw ynghlwm wrth leoedd penodol, gan ddadlau bod lleoliad a lle wedi llywio a siapio barddoniaeth Keats mewn gwirionedd.
Meddai’r Athro Marggraf Turley: “Tybir yn aml bod y coedwigoedd blodeuog, y deildai a’r tirweddau bryniog sydd mor nodweddiadol o farddoniaeth Keats yn ddychmygol - creadigaethau llenyddol yn unig. Mewn gwirionedd, mae’r lleoliadau hynny’n aml yn benodol iawn, yn disgrifio botaneg feddyginiaethol gyfoethog Hampstead Heath, tirwedd nodedig Ynys Wyth neu hyd yn oed atyniadau artiffisial Gerddi Pleser Vauxhall, cyrchle i buteiniaid – y disgrifiwyd eu ‘llygaid disglair’ gan Keats hefyd. Llygaid craff Keats a’i sensitifrwydd i siapiau a ffurfiau lleol yw’r hyn sy’n rhoi grym neilltuol i’w waith.”
Mae’r gyfrol yn cynnwys casgliad o draethodau gan ysgolheigion Keats o fri rhyngwladol, sy’n trafod detholiad o leoedd a chwaraeodd ran ym mywyd creadigol Keats gan helpu i lunio ei hunaniaeth fel awdur.
Mae’r lleoliadau a drafodir yn amrywio o standiau clawstroffobig llawdrinfa Ysbyty Guy’s i’r tu mewn i goets bost ddigysur Southampton; o greigiau’r Ucheldir i Hampstead Heath; o ganol dinasoedd poblog i lonydd maestrefol deiliog.
Mae’r llyfr hefyd yn edrych ar y berthynas rhwng lleoedd real a dychmygol Keats.
Mae’r Athro Marggraf Turley yn awdur ar nifer o lyfrau ar y beirdd Rhamantaidd, gan gynnwys Keats’s Boyish Imagination (2004), Bright Stars: John Keats, Barry Cornwall and Romantic Literary Culture (2009) ac ar y cyd â Jayne Archer a Howard Thomas, Food and the Literary Imagination (2015).
Mae hefyd yn awdur ar nofel wedi’i gosod yn 1810, The Cunning House (2015). Yn 2007, enillodd wobr Keats-Shelley am farddoniaeth.