Darlith gyhoeddus: ‘E H Carr: Nationalism and the Nation-State in an Age of Crisis’
Yr Athro Michael Cox
29 Tachwedd 2018
Bydd arbenigwr blaenllaw ar bolisi tramor yr Unol Daleithiau ac awdur toreithiog ar y Rhyfel Oer yn siarad ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 4 Rhagfyr 2018.
Bydd yr Athro Michael Cox o’r London School of Economics (LSE) yn traddodi darlith rhif 35 yng nghyfres Darlith Flynyddol E H Carr ar y pwnc ‘E H Carr: Nationalism and the Nation-State in an Age of Crisis’.
Caiff ‘Darlithoedd Goffa Carr’ ei hystyried fel y gyfres ddarlithoedd fwyaf nodedig ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol.
Mae’r Athro Cox yn Athro Emeritws yn yr LSE ac yn Gyfarwyddwr ar LSE IDEAS, un o brif felinau trafod prifysgol y byd. Bu’n dysgu yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth rhwng 1995 a 2001.
Mae’r ddarlith yn rhan o Gyfres Siaradwyr y Canmlwyddiant sy’n dathlu can-mlwyddiant sefydlu Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol cyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd yr Athro Ken Booth o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: “Mae’n debyg bod yr Athro Cox yn adnabod gwaith Carr yn well na neb. Mae’n siaradwr heriol, ac mae’r pwnc o arwyddocâd mawr mewn cyfnod lle mae cenedlaetholdeb yn bygwth y drefn ryddfrydol ryngwladol sydd wedi darparu heddwch a ffyniant digymar i rannau helaeth o’r byd ers 1945. Mae’r byd ar groesffordd: ac mae Carr a Cox yn dywyswyr fydd wir yn pryfocio’r meddwl.”
Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais, am 6yh ddydd Mawrth 4 Rhagfyr 2018.
Estynnir gwahoddiad i aelodau’r cyhoedd yn ogystal â staff a myfyrwyr y Brifysgol.