Cynhadledd undydd i ddathlu’r hengerdd
Dr Simon Rodway a chopi o ‘Taliesin’ gan John Morris-Jones
23 Tachwedd 2018
Bydd penblwydd cyhoeddi dwy gyfrol nodedig o lenyddiaeth Gymraeg yn cael ei ddathlu ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Sadwrn 24 Tachwedd 2018.
Ganrif ers cyhoeddi ‘Taliesin’ John Morris-Jones ac 80 mlynedd ers i Canu Aneirin Ifor Williams ymddangos am y tro cyntaf, bydd academyddion o brifysgolion Aberystwyth, Bangor a Rhydychen yn nodi’r ddwy garreg filltir mewn cynhadledd arbennig: John Morris-Jones, Ifor Williams a’r Hengerdd.
Cynhelir y gynhadledd, sydd yn agored i’r cyhoedd ac yn rhad ac am ddim i’w mynychu, yng Nghanolfan Medrus, Prifysgol Aberystwyth.
Yn ystod y bore, bydd cyflwyniadau gan Angela Grant, sydd newydd gwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, Dr Alexander Falileyev, a’r Athro Peredur Lynch o Brifysgol Bangor.
Wedi toriad am ginio, bydd cyfle i glywed cyfraniadau gan yr Athro John Koch o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, yr Athro Patrick Sims-Williams a’r Athro Marged Haycock, y ddau yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Trefnydd y gynhadledd yw Dr Simon Rodway, darlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.
Yn ôl Dr Rodway, amcan y gynhadledd fydd dathlu cyfraniad John Morris-Jones ac Ifor Williams, a’i ystyried yn feirniadol yng ngoleuni ysgolheictod diweddar.
Dywedodd Dr Rodway: “Roedd Taliesin (Y Cymmrodor 28) yn y bôn yn adolygiad o Poems from the Book of Taliesin Gwenogvryn Evans (1915), a ddisgrifiwyd gan Morris-Jones yn “one huge mistake”, ond roedd llawer mwy na hynny hefyd gan ei fod yn cynnwys golygiadau o’r cerddi a briodolir gan Morris-Jones i’r Taliesin hanesyddol, sef y bardd a fu yn ei flodau yn y chweched ganrif.
“I bob pwrpas, mae ‘Taliesin’ yn gosod seiliau astudiaeth fodern o’r hengerdd. Adeiladwyd ar y seiliau hyn yn enwedig gan Ifor Williams, un o ddisgyblion Morris-Jones, a gyhoeddodd olygiadau arloesol o rai o’r cerddi cynnar pwysicaf, gan gynnwys Canu Aneirin ym 1938, h.y. y Gododdin a briodolir i Aneirin, a oedd yn cydoeswr â Thaliesin.
“Mae syniadau Morris-Jones ac Ifor Williams am ganu Taliesin a chanu Aneirin wedi cael eu herio dros y degawdau, ond maent yn dal yn dra dylanwadol, yn enwedig ar lefel boblogaidd”, ychwanegodd.
Trefnir cynhadledd John Morris-Jones, Ifor Williams a’r Hengerdd gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor, gyda nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cynhelir y gynhadledd yng nghanolfan Medrus, Campws Penglais, Aberystwyth, ddydd Sadwrn 24 Tachwedd 2018 o 10 y bore tan 4 y prynhawn. Mynediad am ddim. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.