Ysgoloriaethau ‘GREAT’ i fyfyrwyr o Faleisia i astudio yn Aberystwyth
O’r chwith i’r dde: Dr Marco Odello (Prifysgol Aberystwyth), Ms Andrea Fordham (Prifysgol Queen's, Belfast), Mr Imran Hashim (Prifysgol Warwick), Ms Sarah Deverall (y Cyngor Prydeinig) a Ms Sue Hopkinson (Prifysgol Caint) yn lansiad cynllun ‘GREAT Scholarships 2019 – Malaysia’ yn Kuala Lumpur ar 21 Hydref 2018. Credyd: y Cyngor Prydeinig
21 Tachwedd 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o bum prifysgol yn y DU sy’n gweithio ar y cyd â’r Cyngor Prydeinig i gynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr o Faleisia.
Mae cynllun ‘GREAT Scholarships 2019 – Malaysia’ yn annog ac yn cynorthwyo unigolion i ddilyn cyrsiau addysg uwch yn y DU.
Ariennir y cynllun ar y cyd gan Ymgyrch ‘GREAT Britain’ llywodraeth y DU, y Cyngor Prydeinig, a phrifysgolion yn y DU sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Mae’n cynnig cyllid i ddarpar fyfyrwyr o nifer ddetholedig o wledydd a fydd yn cofrestru mewn prifysgolion yn y DU yn hydref 2019.
Ym mlwyddyn gyntaf cynllun ‘GREAT Scholarships 2019 – Malaysia’ cynigir deg ysgoloriaeth uwchraddedig drwy gwrs i fyfyrwyr cymwys o Faleisia, sy’n werth cyfanswm o bron i £100,000.
Mae’r DU yn denu dros 17,000 o fyfyrwyr o Faleisia bob blwyddyn, y rhan fwyaf ohonynt yn dod i’r DU i ddilyn cyrsiau israddedig. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r tueddiadau’n awgrymu bod gan nifer cynyddol o fyfyrwyr o Faleisia ddiddordeb mewn dilyn cyrsiau uwchraddedig yn y DU. Ar hyn o bryd, mae nifer y myfyrwyr uwchraddedig yn cyfrif am tua 15 y cant o gyfanswm nifer y myfyrwyr o Faleisia yn y DU.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae gan Brifysgol Aberystwyth gysylltiadau academaidd cryf â Maleisia ers sawl blwyddyn a bydd cynllun Ysgoloriaethau GREAT yn cryfhau ymhellach y berthynas unigryw sydd rhyngom. Mae gennym enw da ers tro byd am ragoriaeth ein dysgu ac am ymchwil sy’n arwain y byd, ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r bartneriaeth ysbrydoledig hon â’r Cyngor Prydeinig ac yn edrych ymlaen at groesawu uwchraddedigion o Faleisia i ymuno â’n cymuned academaidd ryngwladol.”
Y pedair prifysgol arall yn y DU a fydd yn cynnig cyfleoedd o dan y cynllun yw Prifysgol Queen's, Belfast, Prifysgol Caint, Prifysgol Stirling, a Phrifysgol Warwick.
Dywedodd Sarah Deverall, Cyfarwyddwr y Cyngor Prydeinig ym Maleisia: “Mae astudiaethau uwchraddedig yn y DU yn apelio at y myfyrwyr gan fod y rhaglenni’n gymharol fyr. Dim ond blwyddyn y mae’n ei gymryd i gwblhau’r rhan fwyaf o raddau uwchraddedig yn y DU, ac mae hynny’n eu gwneud yn fwy fforddiadwy o lawer nag mewn gwledydd eraill. Mae Maleisia yn wlad bwysig i’r pum prifysgol sydd wedi dewis bod yn bartneriaid ym mlwyddyn gyntaf cynllun ‘GREAT Scholarships 2019 – Malaysia’. Mae’r prifysgolion hyn yn croesawu myfyrwyr o Faleisia i’w campysau ers blynyddoedd lawer ac yn gweld gwerth yr amrywiaeth a’r cyfraniad academaidd y mae myfyrwyr o Faleisia’n eu cynnig.”
Mae Ysgoloriaethau GREAT ar gael ar gyfer rhaglenni uwchraddedig drwy gwrs yn y DU sy’n para blwyddyn ym mlwyddyn academaidd 2018/19 yn unig. Mae’n rhaid i fyfyrwyr o Faleisia sy’n bwriadu ymgeisio am ysgoloriaeth fod wedi cael cynnig lle yn un o’r pum prifysgol uchod a rhaid iddynt hefyd fodloni’r holl ofynion mynediad ar gyfer y cwrs dan sylw fel y’u nodir gan y brifysgol berthnasol.
I gael gwybod mwy am gynllun ‘GREAT Scholarships 2019 – Malaysia’, ewch i: www.britishcouncil.my/study-uk/scholarships