Cyn-fyfyriwr PhD o Aber yn ennill Gwobr y Gymdeithas Eingl-Thai
Dr Jittipat Poonkham (chwith) gyda Mr Jason Gregory, Cyfarwyddwr Cymwysterau Rhyngwladol, Pearson Education
19 Tachwedd 2018
Mae cyn-fyfyriwr PhD o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn gwobr gan y Gymdeithas Eingl-Thai.
Derbyniodd Dr Jittipat Poonkham y Wobr Addysgol am Ragoriaeth yn y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn Seremoni Wobrwyo’r Gymdeithas Eingl-Thai a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2018 yn yr Oriental Club, Stratford Place, Llundain.
Mae Gwyborau blynyddol y Gymdeithas Eingl-Thai yn dathlu talent eithriadol myfyrwyr PhD Thai sy’n astudio ym mhrifysgolion Prydain ar draws ystod eang o ddisgyblaethau academaidd.
Enwebir ymgeiswyr gan eu goruchwylwyr academaidd i gael eu hystyried am y gwobrau a chaiff eu gwaith ei asesu gan banel annibynnol o ysgolheigion nodedig.
Enillodd Dr Poonkham radd BA mewn Gwyddor Gwleidyddiaeth (Cysylltiadau Rhyngwladol) o Brifysgol Chulalongkorn (Bangkok), ac yna radd MPhil mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yng Ngholeg Sant Antony, Prifysgol Rhydychen. Dechreuodd astudio am PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2015. Y mae bellach yn Athro Cynorthwyol a Chyfarwyddwr y Rhaglen Astudiaethau Rhyngwladol yng Nghyfadran Gwyddor Gwleidyddiaeth Prifysgol Thammasat (Bangkok).
Dywedodd goruchwyliwr PhD Dr Poonkham, Dr Matthew Phillips, Darlithydd mewn Hanes Asia Fodern ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rwyf wrth fy modd i glywed fod Jittipat wedi ei gydnabod am y cyfraniad pwysig hwn i ysgolheictod a chysylltiadau rhwng Gwlad Thai a Phrydain. Roedd hi’n fraint i’w gyfarwyddo, ac edrychaf ymlaen at gydweithredu pellach rhwng Aberystwyth a Phrifysgol Thammasat, lle mae Jittipat bellach yn gweithio.”