Llwyfannu Cân i Gymru 2019 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
(Chwith i'r Dde) Ryland Teifi, cyn-enillydd Cân i Gymru; Elin Fflur, cyd-gyflwynydd a chyn-enillydd y rhaglen; Siôn Llwyd, Cynhyrchydd Cân i Gymru a Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
02 Tachwedd 2018
Cyhoeddwyd mai Canolfan y Celfyddydau ar gampws Prifysgol Aberystwyth fydd y lleoliad ar gyfer Cân i Gymru 2019 pan fydd y gystadleuaeth yn dathlu ei hanner can mlwyddiant.
Cafodd Cân i Gymru 2019 ei lansio’n swyddogol ddydd Gwener 2 Tachwedd 2018 ar raglen Heno ar S4C a hynny mewn darllediad byw o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Elin Fflur, un o gyn-enillwyr a chyd-gyflwynydd Cân i Gymru, oedd yn Aberystwyth i gyhoeddi manylion cystadleuaeth 2019 ar raglen Heno. Cafwyd perfformiad byw hefyd gan Ryland Teifi, a ganodd y gân fuddugol yn 2006.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth: “Mae cystadleuaeth Cân i Gymru yn un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn yma yng Nghymru, a bydd yn fraint cael cynnal y gystadleuaeth yn Aberystwyth ar 1 Mawrth 2019 pan fydd yn dathlu ei phenblwydd yn hanner cant.”
Mae’r gystadleuaeth wedi ei chynnal yn flynyddol ers 1969, gyda chyfansoddwyr a chantorion yn cynnig caneuon gwreiddiol am gyfle i ennill tlws Cân i Gymu ynghyd â gwobr ariannol.
Ymhlith y cantorion adnabyddus sydd wedi dod i’r brig dros yr hanner can mlynedd diwethaf mae Margaret Williams, Bryn Fôn a Caryl Parry Jones.
Dywedodd Elin Fflur, a enillodd y gystadleuaeth yn 2002 wrth ganu'r gân Harbwr Diogel: “Mae Cân i Gymru yn ddigwyddiad mawr ac mae’r dathliadau 50 yn ei gwneud hi’n fwy arbennig. Mae Cân i Gymru wedi newid ac addasu i gynulleidfaoedd dros y blynyddoedd ac mae llwyddiant y gystadleuaeth yn amlwg gyda niferoedd cystadlu ar ei uchaf ers blynyddoedd - dyna pam mae’r rhaglen wedi bod mor llwyddiannus. Dwi wir yn credu y byddwn ni’n dathlu canmlwyddiant Cân i Gymru!”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cân i Gymru 2019 yw 4 Ionawr 2019 am 5 o’r gloch.