Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Cynhadledd Cymru’r Gyfraith
26 Medi 2018
Ugain mlynedd wedi Deddf Llywodraeth Cymru 1998, bydd aelodau blaenllaw’r farnwriaeth, ymarferwyr cyfreithiol ac academyddion o bob cwr o Gymru yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth i ystyried yr heriau a’r cyfleoedd a grewyd gan ddatganoli.
Ddydd Gwener 12 Hydref bydd Adran y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol yn cynnal Cynhadledd Flynyddol Cymru’r Gyfraith sy’n cael ei threfnu gan Ymddiriedolaeth Cymru’r Gyfraith.
Bydd y gynhadledd yn cael ei chadeirio gan ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC, a benodwyd yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth yn ddiweddar, yn cynnwys sesiwn ar waith y Comisiwn Thomas sydd yn adolygu’r gyfundrefn gyfiawnder yng Nghymru.
Yn ogystal, bydd cyflwyniad gan Comisiwn y Gyfraith Lloegr a Chymru ar ei gwaith cyfredol ar y gyfraith yng Nghymru, a sesiynau ar gyfraith tai, cyfraith amaethyddol, diogelu oedolion, hanes cyfraith a chyfraith technoleg gwybodaeth.
Ymhlith siaradwyr y gynhadledd bydd Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Burnett o Maldon; Arglwydd Lywydd Llys Sesiwn yr Alban, yr Arglwydd Carloway; Cwnsler Cyffredinol Cymru, Jeremy Miles; a Simon Davis, Is-gadeirydd Cymdeithas y Gyfraith Cymru a Lloegr.
Dywedodd Cadeirydd y gynhadledd, yr Athro John Williams: “Dwi wrth fy modd fod Cynhadledd Cymru’r Gyfraith yn dod i Aberystwyth, man geni addysg y gyfraith yng Nghymru. Ugain mlynedd wedi Deddf Llywodraeth Cymru 1998, mae’r gynhadledd yn gyfle gwych i gyfreithwyr yng Nghymru drafod yr heriau a’r cyfleoedd a ddaeth yn sgil datganoli. Mae’n gyfle amserol i gyfrannu at waith Comisiwn yr Arglwydd Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru ac i glywed mwy am ddatblygiadau cyfreithiol yng Nghymru. Mae’r Brifysgol yn falch o gael cynnal y gynhadledd ac yn edrych ymlaen at groesawu cyfreithwyr o bob cwr o Gymru, nifer ohonynt yn raddedigion o’r Ysgol Gyfraith.”
Nos Iau 12 Hydref bydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones AC, a raddiodd o Ysgol y Gyfraith Aberystwyth, yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Bydd y ddarlith yn dechrau am 5 y prynhawn.
Yn dilyn darlith y Prif Weinidog, bydd Cymdeithas Hanes y Gyfraith Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal darlith a chinio i ddathlu “Trysorau Cyfreithiol Cymru”, sydd yn cynnwys Llawysgrif Boston o gyfreithiau Hywel Dda, gafodd eu prynu gan y Llyfrgell yn 2012. Bydd y digwyddiad yn y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau am 6:15 yr hwyr.
Sefydlwyd Sefydliad Cymru’r Gyfraith er mwyn ymateb i anghenion cyfreithwyr sydd yn gweithio yng Nghymru a hyrwyddo datblygiad y gyfraith yng Nghymru.
Ymhlith yr unigolion amlwg fu’n gyfrifol am sefydlu Cymru’r Gyfraith mae Canghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, a Winston Roddick QC, sydd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Cynhelir Cynhadledd Cymru’r Gyfraith 2018 yng nghanolfan gynadledda Medrus Prifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 12 Hydref, ac yn dechrau am 9:30 y bore.
Gellir cadw lle ar y gynhadledd yma.