Cais am enwebiadau ar gyfer Graddau er Anrhydedd

Cyflwynwyd Gradd Baglor er Anrhydedd i Sue Jones-Davies, actores, cantores a chyn Faer tref Aberystwyth yn 2018.

Cyflwynwyd Gradd Baglor er Anrhydedd i Sue Jones-Davies, actores, cantores a chyn Faer tref Aberystwyth yn 2018.

19 Medi 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwahodd enwebiadau am nifer o Raddau er Anrhydedd i'w cyflwyno yn ystod ei seremonïau gradd ym mis Gorffennaf 2019.

Gwahoddir staff, myfyrwyr a'r cyhoedd i enwebu unigolion am Gymrodoriaethau er Anrhydedd, Doethuriaethau er Anrhydedd, a Graddau Baglor er Anrhydedd. 

Rhaid cyflwyno'r enwebiadau erbyn hanner nos, nos Sul, 14 Hydref 2018.

Cymrodoriaethau er Anrhydedd yw prif ddull Prifysgol Aberystwyth o anrhydeddu unigolion, ac fe gaiff y rhain eu dyfarnu i anrhydeddu unigolion sydd, neu a fu, â chysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru yn gyffredinol, ac a wnaeth gyfraniad eithriadol yn eu dewis faes. Disgwylir i’r rhai sy’n derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd i sefydlu perthynas barhaus â’r Brifysgol.

Gellir dyfarnu gradd Doethuriaeth er Anrhydedd i rai a fu'n eithriadol lwyddiannus yn eu meysydd, neu sydd â hanes hir o ymchwil a chyhoeddiadau clodwiw.

Gellir dyfarnu gradd Baglor er Anrhydedd i unigolyn sy’n aelod o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; neu sy'n aelodau o’r gymuned leol a wnaeth gyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.

Ar ôl eu derbyn, adolygir yr enwebiadau gan y Grŵp Graddau er Anrhydedd, a fydd wedyn yn argymell tua dwsin o unigolion o blith y rhai a enwebwyd, i'r Senedd a'r Cyngor eu cymeradwyo.  Pan fydd y rhestr derfynol wedi’i chymeradwyo, cysylltir â'r unigolion i weld a ydynt yn barod i dderbyn y dyfarniadau er anrhydedd.

Fel yr eglura Geraint Pugh, Ysgrifennydd y Brifysgol: “Gorau po fwyaf o enwebiadau a ddaw i law. Y nod yw gweld cymysgedd diddorol o unigolion yn cael eu hargymell am Wobrau er Anrhydedd – unigolion y gallwn ddathlu eu llwyddiannau a’u cyfraniadau, ac a fydd yn ysbrydoli cymuned y Brifysgol gyfan.”

Mae manylion llawn, gan gynnwys ffurflen enwebu a meini prawf cymhwysedd, i'w gweld ar-lein yn:  www.aber.ac.uk/cy/about-us/honorary-awards/.  Rhaid enwebu unigolion addas i'w hystyried am Raddau er Anrhydedd yn 2019 erbyn hanner nos, nos Sul, 14 Hydref 2018.