Ysgoloriaethau yn ysbrydoli dysgwyr

O’r chwith i’r dde: John Habron; myfyriwr ar y Cwrs Haf Dwys, Felicity Roberts, Cydlynydd a Thiwtor ar y Cwrs Haf Dwys, a Zoe Evans, enillydd Ysgoloriaeth Dan Lynn James.

O’r chwith i’r dde: John Habron; myfyriwr ar y Cwrs Haf Dwys, Felicity Roberts, Cydlynydd a Thiwtor ar y Cwrs Haf Dwys, a Zoe Evans, enillydd Ysgoloriaeth Dan Lynn James.

06 Medi 2018

Mae dysgwraig o Benfro a dysgwraig o Batagonia wedi bod yn siarad am yr hwb a gawson nhw yn sgil ennill ysgoloriaeth i fynychu’r Cwrs Haf Dwys Prifysgol Aberystwyth 2018.

Enillwyd Ysgoloriaeth Dan Lynn James gan Zoe Evans o Wdig yn Sir Benfro, ac Ysgoloriaeth y Ganolfan Ddysgu Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth gan Norma Price o Drelew, Pantagonia.

Y nod i Zoe oedd gwella safon ei Chymraeg er mwyn medru siarad gyda phobl leol, yn y gwaith a gyda ffrindiau.

Ac i Norma, sydd yn gynorthwy-ydd dysgu yn Ysgol Gymraeg Trelew, yr amcan oedd rhoi hwb a hyder iddi yn ei gwaith yn yr Ysgol.

Ond roedd yna elfen ychwanegol ac annisgwyl i Zoe, gan bod un o’i chyd-fyfyrwyr ar y cwrs haf, John Habron o Fanceinion, yn fab-yng–nghfraith i’r diweddar Dan Lynn James.

Yn enedigol o Henllan yng Ngheredigion, bu Dan Lynn James yn ysbrydoliaeth i gynifer o ddysgwyr a thiwtoriaid y Gymraeg rhwng y 1950au a’r 1980au, a gwnaeth gyfraniad mawr at foderneiddio’r iaith a’r dulliau dysgu.

Roedd hefyd yn ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn Llywydd Anrhydeddus CYD – Cymdeithas y Dysgwyr.

Bob blwyddyn mae Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr yn cynnig un ysgoloriaeth flynyddol er cof amdano i ddysgwr fynychu’r Cwrs Haf Dwys yn Aberystwyth.

“Allwn i ddim dod ar y cwrs onibai fy mod wedi ennill yr ysgoloriaeth,” meddai Zoe. “Dw i newydd basio’r arholiad Sylfaen, ac mae’r cwrs hwn wedi rhoi mwy o hyder i mi i siarad.”

Dywedodd John: “Fel mab yng nghyfraith i Dan Lynn James, mae’n anrhydedd i mi fod ar y cwrs achos roedd Dan yn arbenigwr yn dysgu Cymraeg fel iaith ychwanegol i oedolion, ac hefyd i gwrdd gyda Zoe. Dwi’n hoffi ieithoedd a dwi’n siarad tipyn bach o Gymraeg a dwi eisiau ymarfer a gwella hefyd.”

Dywedodd Norma: “Mae’r cwrs wedi golygu bod fy Nghymraeg llafar ac ysgrifenedig wedi gwella ac felly bydda i’n gallu ysgrifennu’n well a defnyddio mwy o eirfa yn y Gymraeg ym Mhatagonia.”

Dywedodd Siôn Meredith, Pennaeth Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth: “Hoffwn longyfrach pawb fu ar y Cwrs Haf Dwys eleni ac i’r tiwtoriaid a sicrhaodd ei fod yn llwyddiant ysgubol unwaith eto eleni. Mae’r ysgoloriaethau sydd yn cael eu cynnig wedi eu hanelu at ddysgwyr sydd ar dân eisiau dod yn siaradwyr hyderus a rhugl. Ar ôl mis yn Aberystwyth, dw i’n ffyddiog y bydd Zoe a Norma yn dychwelyd i Sir Benfro a Phatagonia gyda hyder newydd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ei bywyd pob dydd ac yn y gweithle.”

“Hyfryd hefyd oedd cael cyfarfod gyda John, yn rhinewedd ei gysylltiad gyda’r diweddar Dan Lynn James, ac atgyfnerthu’r cysylltida gyda gŵr a wnaeth gymaint i ddatblygu’r maes dysgu Cymraeg i oedolion.”

Roedd Zoe, John a Norma ymhlith dros gant o ddysgwyr o 12 o wledydd a fynychodd Cwrs Haf Dwys ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 30 Gorffennaf a 24 Awst 2018.

Prifysgol Aberystwyth sy’n darparu’r cwrs ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ceir rhagor o fanylion am gyrsiau dysgu Cymraeg ar www.dysgucymraeg.cymru.