Aber ar y brig am fodlonrwydd myfyrwyr yng Nghymru
Dengys canlyniadau diweddaraf yr ACF fod bodlonrwydd cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 90% - saith pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 83%.
27 Gorffennaf 2018
Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ymhlith y rhai mwyaf bodlon eu byd yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) a gyhoeddwyd heddiw ddydd Gwener 27 Gorffennaf 2018.
Dengys canlyniadau diweddaraf yr ACF fod bodlonrwydd cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 90% - saith pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 83%.
Aberystwyth yw’r brifysgol orau yng Nghymru am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr.
Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn perfformio’n well na’r sector yn y DU ac yng Nghymru ym mhob un o naw maes yr Arolwg.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae'r canlyniadau ACF diweddaraf yn goron ar flwyddyn eithriadol i Brifysgol Aberystwyth. Fis diwethaf dyfarnwyd Aur i Aberystwyth yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr ac fe’n henwyd yn Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd Dysgu gan ganllaw prifysgolion The Times and Sunday Times Good University Guide 2018. Mae’r hyn sydd wedi ei gyflawni yn adrodd cyfrolau am fedrusrwydd ac ymroddiad y gymuned o staff a myfyrwyr yma yn Aber. Wrth i ni ddathlu canlyniadau’r arolwg, nid ydym yn llaesu dwylo ac fe ddefnyddiwn yr adborth gwerthfawr yma i adeiladu ymhellach ar y sylfeini cadarn hyn o lwyddiant.”
Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb dros Brofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Fel Prifysgol, rydym yn gwneud ymdrech fawr i sicrhau ein bod yn darparu'r addysg orau bosibl gyda ffocws pendant ar sut rydym yn monitro addysgu, asesu ac adborth, a sut rydym yn tracio perfformiad myfyrwyr yn ystod pob blwyddyn o'u hamser gyda ni. Rydym hefyd wedi buddsoddi'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ein cyfleusterau campws ac adnoddau dysgu. Mae ein hymrwymiad parhaus i ddarparu profiad myfyriwr eithriadol yn cael ei adlewyrchu nid yn unig yn y canlyniadau ACF rhagorol heddiw ond hefyd yn ein gwobr Aur TEF. Diolch o galon i’n staff ymroddedig a’n myfyrwyr am hyn.”
Dywedodd Bruce Wight, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: "Llongyfarchiadau i Brifysgol Aberystwyth am sicrhau canlyniadau anhygoel eto eleni yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr. Mae'n wych gweld Aberystwyth yn perfformio mor gyson flwyddyn ar ôl blwyddyn, a gellir gweld o'r canlyniadau hyn ein bod wedi cynnal ein safonau uchel.Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Brifysgol am flwyddyn arall a medru ychwanegu at a gwella’r profiad y myfyrwyr. Rwy’n bendant bod gweithio yn agos gyda’n gilydd a gwrando ar yr hyn sydd gan y myfyrwyr i’w ddweud yn mynd i olygu y bydd Aberystwyth yn parhau i gael ei chydnabod fel prifysgol sydd yn darparu rhagoriaeth am y dysgu yn oygstal â darparu amgylchedd gymunedol, gyfeillgar a diogel.”
Caiff yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr ei gynnal gan IPSOS Mori ar ran cynghorau cyllido addysg uwch y DU ac mae'n casglu barn bron i hanner miliwn o fyfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf mewn prifysgolion yn ogystal â cholegau a darparwyr eraill.
Mae'n gofyn i fyfyrwyr sgorio eu prifysgol ar draws ystod eang o gwestiynau gan gynnwys ansawdd yr addysgu, cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefnu a rheoli, adnoddau dysgu, cymuned ddysgu, llais y myfyrwyr a boddhad cyffredinol.
Daw ffigurau'r ACF yn dilyn cyhoeddi derbyn Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA) a gyhoeddwyd ddydd Mercher 6 Mehefin 2018.
Maent hefyd yn dilyn cyhoeddi ffigyrau cyflogadwyedd diweddaraf ar gyfer prifysgolion y DU a ddangosodd fod 96.8% o raddedigion Prifysgol Aberystwyth mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Aberystwyth (HESA 2018).
Prifysgol Aberystwyth yw Prifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd Dysgu canllaw prifysgolion TheTimes and Sunday Times Good University Guide 2018.