Gwyddonydd cyfrifiadureg o Aberystwyth yn esgyn i Oriel Enwogion Technoleg Gwybodaeth
Mae enw Dr Hannah Dee o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei ychwanegu at Oriel Enwogion Technoleg Gwybodaeth Computer Weekly.
24 Gorffennaf 2018
Mae gwyddonydd ym maes cyfrifiadureg o Brifysgol Aberystwyth sydd wedi treulio tipyn o'i gyrfa broffesiynol yn hyrwyddo rôl menywod mewn technoleg wedi cael ei anrhydeddu gan wefan newyddion technoleg flaenllaw.
Mae enw Dr Hannah Dee, uwch ddarlithydd yn yr Adran Cyfrifiadureg, wedi ei ychwanegu at Oriel Enwogion Computer Weekly o’r menywod mwyaf dylanwadol sy’n gweithio ym maes Technoleg Gwybodaeth yn y DU.
Sefydlwyd yr Oriel yn 2015 er mwyn amlygu llwyddiannau oes rhai o’r menywod sydd wedi eu henwebu ar gyfer rhestr flynyddol Computer Weekly o'r menywod mwyaf dylanwadol yn y sector dechnoleg yn y DU.
Daw dyrchafiad Dr Dee i Oriel yr Enwogion wedi iddi gael ei chynnwys ym 50 uchaf Menywod Mwyaf Dylanwadol Technoleg Gwybodaeth y DU am bedair blynedd yn olynol, gan gyrraedd y 9fed safle yn 2016 a 2017.
Y tair arall sydd yn ymuno â Dr Dee yn Oriel yr Enwogion eleni yw Chi Onwurah, Gweinidog Strategaeth Ddiwydiannol yr Wrthblaid ac AS Llafur dros Newcastle upon Tyne Central; Sarah Wood, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Unruly Media, a Sherry Coutu CBE, sylfaenydd y ScaleUp Institute a Founders4Schools.
Mae’r rhai sy’n cael eu cyflwyno eleni i Oriel Enwogion Menywod Mwyaf Dylanwadol Technoleg Gwybodaeth y DU yn ymuno â grŵp dethol o naw o fenywod - yn eu plith, y Farwnes Martha Lane Fox, cyd-sylfaenydd Lastminute.com, a Maggie Philbin OBE, darlledwr a chyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Teen Tech.
Dywedodd yr Athro Qiang Shen, Cyfarwyddwr Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth: “Mae Hannah wedi bod yn ddylanwadol iawn o ran codi proffil menywod ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o fenywod i astudio cyfrifiadureg. Ni allaf feddwl am unrhyw un sy'n fwy haeddiannol o'r wobr hon. Fel Athrofa, rydym yn estyn ein llongyfarchiadau gwresocaf iddi.”
Dywedodd Dr Dee: "Mae'r bobl eraill yn Oriel yr Enwogion yn sêr ac mae bod yn eu cwmni yn deimlad rhyfedd. Sefydlais y BCSWomen Lovelace Colloquium pan oeddwn yn ymchwilydd ôl-ddoethurol gan nad oedd unrhyw beth yn bodoli bryd hynny i gefnogi menywod ar y pwynt penodol hwnnw yn eu gyrfa, ac mae wedi datblygu i fod yn rhan fawr o'r calendr digwyddiadau Menywod mewn Technoleg yn y DU.
“Heddiw, mae cymaint yn digwydd - mae cwmnïau'n cynnig rhaglenni sy'n edrych yn benodol ar fenywod ifanc mewn technoleg, ac mae hyn yn agor y byd technoleg i ferched na fyddent o bosib wedi ystyried y maes. Mae’n rhaid i ni gofleidio’r syniad bod cyfrifiadureg yn rhywbeth i bawb, o ystyried sut mae technoleg yn datblygu yn ein byd, a’r modd y mae dyfeisiadau technolegol yn ymdreiddio i bob agwedd o’n bywydau.”
Yn 2008, fe sefydlodd Dr Dee y BCSWomen Lovelace Colloquium, sef prif gynhadledd y DU ar gyfer israddedigion benywaidd, a bu’n gyfrifol am drefnu’r digwyddiad am y deng mlynedd cyntaf. Mae hi bellach yn ddirprwy gadeirydd ac yn 2018, fe ddaeth dros 200 o bobl i’r gynhadledd a gynhaliwyd yn Sheffield.
Roedd Dr Dee hefyd yn rhan allweddol o ymgais record byd "Appathon" BCSWomen, gan ysgrifennu'r deunyddiau a hyfforddi'r hyfforddwyr fel bod mwy na mil o bobl mewn dros 30 o leoliadau yn dysgu sut i adeiladu apiau Android ar yr un pryd, gyda phob sesiwn yn cael ei harwain gan hyfforddwr benywaidd.
Yn 2018 bu'n cynorthwyo yn y gwaith o gynnal cynhadledd haf gyntaf Menywod mewn Technoleg Cymru, gan reoli'r trefniadau lleol a'r ffrwd dechnoleg.
Fel uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'n dysgu golwg a chronfeydd data cyfrifiadurol, ac ymchwil i olwg gyfrifiadurol. Yn ogystal â bod yn ymchwilydd gweithgar, mae ganddi bum gwobr addysgu ac mae'n gymrawd hŷn yr Academi Addysg Uwch.
Mae Dr Dee hefyd yn gweithio'n galed i danio brwdfrydedd pobl iau am gyfrifiadura, yn enwedig fel pwnc creadigol, gan helpu i redeg Clwb Roboteg arobryn Aberystwyth.
Mae’n gweithio gydag ysgolion lleol trwy'r fenter Playful Coding, ac mae'n cyfrannu at sesiynau i fyfyrwyr benywaidd o ysgolion uwchradd lleol.
Mae wedi bod ar bwyllgor BCSWomen ers mwy na degawd, ac mae'n ddirprwy gadeirydd BCS Canolbarth Cymru.