Gweinidog Llywodraeth Cymru yn ymweld â Neuadd Pantycelyn
Chwith i’r Dde: Andrea Pennock, Cyfarwyddwr Datblygu Ystadau; yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Dr Emyr Roberts, Cadeirydd y Cyngor Prifysgol Aberystwyth; Anna Wyn Jones, Llywydd UMCA; Eluned Morgan AC; Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn a Dirprwy Gadeirydd Cyngor y Brifysgol a Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
09 Gorffennaf 2018
Cafodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru ei thywys o amgylch neuadd breswyl hanesyddol Prifysgol Aberystwyth, Pantycelyn, ddydd Iau 5 Gorffennaf 2018.
Cadarnhaodd Eluned Morgan AC gyllid o £5 miliwn tuag at brosiect £12 miliwn adnewyddu Pantycelyn gan un o raglenni Llywodraeth Cymru yn ystod ei hymweliad, sef raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif.
Mae caniatâd cynllunio wedi’i gymeradwyo i greu ystafelloedd en-suite cyfoes o’r radd flaenaf i 200 o fyfyrwyr.
Bydd yr adeilad yn gartref i swyddfeydd UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), ffreutur cyhoeddus, canolfan i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, a mannau cymdeithasol cyhoeddus ar gyfer myfyrwyr a’r gymuned leol.
Dywedodd Eluned Morgan: “Allwn ni ddim gorbwysleisio pwysigrwydd Pantycelyn i siaradwyr Cymraeg. Mae’n adeilad eiconig i gynifer o bobl o bob rhan o Gymru a’r byd, felly rwy’n hynod falch i allu cadarnhau’r cyllid o £5 miliwn a fydd yn sicrhau bod llawer mwy o fyfyrwyr Cymraeg yn gallu ei galw’n gartref iddynt a phrofi ei hawyrgylch ieithyddol a diwylliannol unigryw.
“Rydyn ni wedi pennu targed heriol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy wedi dweud sawl gwaith fod addysg yn hollbwysig o ran sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed hwnnw – ac mae hynny’r un mor wir am addysg uwch ag ydyw am ysgolion cynradd. Y myfyrwyr a fydd yn byw yn y neuadd fydd athrawon, cyfreithwyr, gwyddonwyr a gwleidyddion y dyfodol. Felly, mae sicrhau bod ganddyn nhw’r cyfleoedd i ddysgu a byw drwy gyfrwng y Gymraeg ac i barhau â hynny yn eu bywydau proffesiynol yn rhan hanfodol o strategaeth ‘Cymraeg 2050’.”
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gefnogi ein cynlluniau cyffrous i ailagor Pantycelyn yn llety o’r radd flaenaf ar gyfer myfyrwyr Cymraeg. Mae Aberystwyth yn cynnig profiad heb ei ail i fyfyrwyr sy’n dymuno dysgu a byw drwy gyfrwng y Gymraeg, ac fe fydd adnewyddu’r adeilad hanesyddol hwn yn atgyfnerthu ymhellach ddyfnder ac ehangder ein darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg.”
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn a Dirprwy Gadeirydd Cyngor y Brifysgol: “Mae popeth yn ei le ar gyfer adnewyddu Pantycelyn – y pecyn cyllid gwerth £12 miliwn yn ogystal â’r caniatâd cynllunio perthnasol. Rydym yn parhau i fwrw ati i ailagor yr adeilad ym mis Medi 2019 ac yn ystod cyfnod y gwaith adnewyddu, mae llety penodedig i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ym Mhantycelyn-Penbryn a Fferm Penglais.”
Dylunwyd yr adeilad gan y pensaer Syr Thomas Percy ac agorodd yn neuadd breswyl yn 1951. Penodwyd Pantycelyn yn Neuadd Breswyl cyfrwng Cymraeg yn 1974.
Mae gwybodaeth bellach am Bantycelyn a’i hanes ar wefan y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/pantycelyn/