Rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn hyfforddi myfyrwyr i fod yn athrawon ers 125 o flynyddoedd.
03 Gorffennaf 2018
Mae rhaglen arloesol ar gyfer hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael ei hachredu am gyfnod o bum mlynedd gan Gyngor y Gweithlu Addysg.
O fis Medi 2019, bydd Adran Addysg y Brifysgol yn cynnig Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) sy’n cynnig dau lwybr at Statws Addysgu Cymwysedig (QTS).
Gall myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon yn Aberystwyth ddewis dilyn cwrs TAR Cynradd gyda Chyfoethogi Uwchradd, neu TAR Uwchradd gyda Chyfoethogi Cynradd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Malcolm Thomas: “Dyma gynllun integredig, arloesol sy’n ymateb i anghenion hyfforddi athrawon yn yr unfed ganrif ar hugain, ac sy’n datblygu darpar athrawon i addysgu ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd. Mae’r ideoleg integredig hon yn cyd-fynd â’r Genhadaeth Genedlaethol a’r Cwricwlwm newydd i Gymru, yn ogystal ag ysgolion pob oed nid yn unig mewn awdurdodau gwledig ond hefyd ardaloedd trefol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar ein hachrediad yn ystod y misoedd nesaf a chwrdd â’u meini prawf penodol.”
Mae’r cynllun TAR newydd wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth gyda’r awdurdod addysg leol - Cyngor Sir Ceredigion - yn ogystal ag ysgolion cynradd ag uwchradd yng Nghanolbarth Cymru.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir o hyfforddi athrawon ac rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn achrediad am bum mlynedd gan Gyngor y Gweithlu Addysg i gyflwyno addysg gychwynnol i athrawon o fis Medi 2019. Ni allem fod wedi gofyn am ffordd well i ddathlu 125 o flynyddoedd hyfforddi athrawon ers ei ddechrau yn 1892-3, sef y flwyddyn y cafodd Prifysgol Cymru ei sefydlu.
“Mae’r rhaglen hon yn atgyfnerthu ein hyfforddiant uwchradd yn ogystal â dod ag ymarfer dysgu cynradd yn ôl i Aberystwyth. Fel Prifysgol hoffem ddiolch i aelodau Gweithgor Partneriaeth AGA Aberystwyth, sy’n cynnwys Cyngor Sir Ceredigion ac ysgolion partner, sydd wedi gweithio gyda ni ar y cynigion arloesol hyn i ddatblygu addysg athrawon at y dyfodol.”
Gellir gwneud cais nawr ar gyfer y cwrs TAR sy’n dechrau fis Medi 2019. Am fwy o fanylion, gellid e-bostio addysg@aber.ac.uk neu fynd i’r wefan www.aber.ac.uk/cy/education.