Myfyriwr ysgrifennu creadigol yn cipio gwobr New Welsh Review

Ed Garland, enillydd Gwobr Prifysgol Aberystwyth: New Welsh Writing Awards 2018 am Gasgliad o Draethodau. Llun: Keith Morris

Ed Garland, enillydd Gwobr Prifysgol Aberystwyth: New Welsh Writing Awards 2018 am Gasgliad o Draethodau. Llun: Keith Morris

30 Mai 2018

Casgliad o draethodau am golli clyw gan fyfyriwr ysgrifennu creadigol o Brifysgol Aberystwyth yw enillydd diweddaraf gwobr flynyddol y cylchgrawn llenyddol New Welsh Review.

Mae Fiction as a Hearing Aid gan Ed Garland yn ystyried yn fanwl sut y gall llenyddiaeth gynnig cysur ac eglurder i bobl sydd â nam ar eu clyw.

Yng Ngŵyl y Gelli ddydd Mawrth 29 Mai y cyhoeddwyd mai Ed, sydd yn astudio MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, oedd enillydd Gwobr Prifysgol Aberystwyth: New Welsh Writing Awards 2018 am Gasgliad o Draethodau.

Mae’r wobr yn cynnwys taliad blaen llaw o £1,000 ar gytundeb e-lyfr, a fydd yn cael ei gyhoeddi o dan argraffnod y cylchgrawn New Welsh Rarebyte, ynghyd â dadansoddiad beirniadol gan yr asiant llenyddol a phartner y gwobrau Cathryn Summerhayes o Curtis Brown.

Mae’r themau yn nhraethodau Ed hefyd wedi eu gosod mewn ffilm fer wedi ei hanimeiddio gan Emily Roberts sydd yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth.

Mae’r New Welsh Writing Awards yn unigryw i’r calendr gwobrau gan eu bod yn hyrwyddo cyfansoddiadau hir. Eleni,  ysgrifennu ar ffurf casgliad o draethodau oedd yn cael ei ddathlu.

Ers ei sefydlu yn 2015, mae’r gwobrau blynyddol wedi derbyn dros 200 o geisiadau, gydag enillydd 2015, Eluned Gramich a’i chyfrol Woman Who Brings the Rain, yn cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2016.

Gwen Davies, golygydd New Welsh Review, oedd yn beirniadu eleni gyda chymorth myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Disgrifiodd Gwen Davies gasgliad o draethodau buddugol Ed Garland fel “cyflwyniad deallus, trylwyr, personol, difyr a grymus o eiriau fel tirwedd sain.”

Mae llwyddiant Ed Garland yn adeiladu ar wythnos lwyddiannus i’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol sydd yn ail yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr o ran addysgu ac adborth yn ôl canllaw prifysgolion The Guardian 2019 a gyhoeddwyd ddydd Mawrth 29 Mai.

Dywedodd Dr Louise Marshall, Pennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol: “Mae'r Adran yn falch iawn o Ed a’i lwyddiant haeddiannol. Mae ei waith ar flaen y gâd o ran ymchwil i’r dyniaethau ac mae ei ysgrifennu creadigol yn amlygu ei fedrusrwydd a’i ddawn rhyfeddol, a’i ffordd fyfyriol o feddwl.”

“Mae Ed yn ymuno â rhestr gynyddol o fyfyrwyr Ysgrifennu Creadigol Aberystwyth sydd wedi ennill gwobrau. Mae eu llwyddiannau yn arwydd o ansawdd, gwreiddioldeb a llewyrch disglair eu hysgrifennu ar draws ystod eang o arddulliau a ffurfiau. Dymunwn bob llwyddiant i Ed at y dyfodol ac estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog iddo ar ennill y wobr bwysig hon.”

Dyfarnwyd yr ail wobr i Alex Diggins o Fryste am Sea Change: Argument in Six Parts, a’r drydedd wobr i Nicholas Murray o Lanandras am Writing and Engagement.

Cyhoeddir pob un o'r tri chais yn rhifyn yr hydref o New Welsh Reader 118 a fydd ar gael ar 1 Medi 2018.

Ed Garland
Mae Ed Garland yn fyfyriwr rhan-amser ar y cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ymddangosodd ei waith yn y cylchgrawn Antic, A Glimpse Of, ac mae wedi cydweithio gyda’r darlunydd Inkymore ar nifer o brosiectau.

Yn wreiddiol o Fanceinion, bu’n byw yng Nghaerlŷr a Bryste cyn symud i Aberystwyth gyda'i wraig Helena yn 2016.

Enillodd radd BSc mewn Technoleg Cerddoriaeth o Brifysgol DeMontfort yn 2005.

Mae'n gweithio fel ysgrifennwr copi ac mae wedi gweithio fel clerc llys, hyfforddwr dringo, gwerthwr posteri, ymhlith nifer o swyddi eraill.

New Welsh Review
Sefydlwyd New Welsh Review yn 1988 fel olynydd i The Welsh Review (1939-1948), Dock Leaves a'r Anglo-Welsh Review (1949-1987). Dyma gylchgrawn llenyddol mwyaf blaenllaw Cymru yn y Saesneg, ac mae’n cynnig llwyfan hanfodol i'r ffuglen newydd gorau, gwaith creadigol ffeithiol a barddoniaeth, fforwm ar gyfer trafod beirniadol, a diwylliant adolygu trylwyr.

Cefnogir New Welsh Review Ltd trwy gyllid craidd gan Gyngor Llyfrau Cymru ac mae’n cael ei gynnal gan Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth. Cafodd cynnwys creadigol y cylchgrawn ei ail-frandio fel New Welsh Reader yn 2015, gydag adolygiadau yn symud yn gyfan gwbl ar-lein.