S4C yn darlledu dogfen myfyrwraig

Meleri Morgan, cynhyrchydd Dwy Chwaer a Brawd, fydd yn cael ei darlledu ar raglen Heno ar S4C nos Wener 25 Mai.

Meleri Morgan, cynhyrchydd Dwy Chwaer a Brawd, fydd yn cael ei darlledu ar raglen Heno ar S4C nos Wener 25 Mai.

23 Mai 2018

Mae ffilm fer arobryn a wnaed gan fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth yn cael ei darlledu ar S4C.

Cafodd Dwy Chwaer a Brawd ei chynhyrchu a'i chyfarwyddo gan Meleri Morgan yn 2017 fel rhan o’i phrosiect blwyddyn olaf yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Ynddi, ceir portread arbennig o fywyd teuluol yng nghefn gwlad Ceredigion wrth i Meleri ddilyn dwy chwaer a brawd yn eu 80au a’u 90au.

Bu’r ddogfen fer yn fuddugol yng nghategori Ffeithiol Gwobrau Myfyrwyr Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru 2018.

Enillodd y ffilm y wobr ar gyfer y myfyriwr rhyngwladol orau yng Ngŵyl Ffilmiau Dogfen Wexford ym mis Medi 2017 hefyd.

Nawr mae’n cael ei dangos ar y teledu am y tro cyntaf a hynny ar raglen gylchgrawn Heno ar S4C am 19:00 nos Wener 25 Mai 2018.

Bydd aelod o dîm cyflwyno Heno yn darlledu’n fyw o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu nos Wener gan gyfweld â staff a myfyrwyr cyn dangos y ddogfen.

Dywedodd Meleri, a raddiodd gyda BA mewn Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym mis Gorffennaf 2017: “Mae'r ffilm yn agos iawn at fy nghalon i ac yn symbol o gyfnod yn fy mywyd lle datblygodd fy nghreadigrwydd yn fawr iawn. Mae fy nyled yn fawr i fy narlithwyr Elin Morse, Kate Woodward a Gareth Llŷr Evans am agor fy llygaid i fyd eang y celfyddydau a phwysigrwydd chwilio'r stori berffaith cyn dechrau ffilmio.

“Mae'r adran yma yn Aberystwyth yn un arbennig iawn sy'n cynnig profiadau eang o'r ochr academaidd i greadigol. Ac yn fy marn i, mae angen iddynt redeg yn gyfochrog er mwyn creu myfyriwr cyflawn sy'n medru elwa o arbenigwyr pob maes yn yr adran.

“Roedd medru astudio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cyfoethogi fy mhrofiad yn Aberystwyth ac rwy’n argymell unrhyw un sydd â diddordeb mewn gradd sy'n llawn amrywiaeth o brofiadau celfyddydol i ystyried astudio yma.”

Dywedodd Elin Morse, Darlithydd mewn Cynyrchiadau Cyfryngol yn yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae Dwy Chwaer a Brawd yn ffilm hyfryd a chrefftus sydd yn gofnod hynod werthfawr o fyd sydd yn prysur ddiflannu. Fel Adran, rydym yn ymfalchïo yn nhalent a llwyddiant haeddiannol Meleri.”

Yn ogystal â chael ei darlledu ar S4C nos Wener 25 Mai 2018, caiff ffilm Meleri ei sgrinio hefyd o flaen llaw i gynulleidfa o staff, myfyrwyr a chynrychiolwyr o'r gymuned leol yn stiwdio R Gerallt Jones yn yr Adran.  

Dywedodd Dr Anwen Jones, Pennaeth Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth: "Ein nod fel adran yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau technegol a'r gwerthoedd cynhyrchu uchel sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn datblygu yn y maes. Mae Meleri wedi canfod llais unigryw fel gwneuthurwr ffilmiau a hoffem estyn ein llongyfarchiadau gwresog iddi ar safon a llwyddiant Dwy Chwaer a Brawd.”

Mae’r darllediad nos Wener yn cydfynd â seremoni wobrwyo flynyddol yr Adran ar gyfer myfyrwyr ffilm ar eu blwyddyn olaf.

Mae manylion pellach am gyrsiau Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth i’w cael ar wefan yr Adran.