Dau fardd o Brifysgol Aberystwyth ar restr fer Llyfr y Flwyddyn

Mae rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2018 yn cynnwys dwy gyfrol o farddoniaeth gan ysgolheigion o Brifysgol Aberystwyth

Mae rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2018 yn cynnwys dwy gyfrol o farddoniaeth gan ysgolheigion o Brifysgol Aberystwyth

12 Mai 2018

Mae gwaith gan ddau ysgolhaig o Brifysgol Aberystwyth ymhlith naw cyfrol ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2018.

Mae The Mabinogi gan yr Athro Matthew Francis ar restr fer gwobr farddoniaeth Roland Mathias, a Llif Coch Awst gan y Dr Hywel Griffiths ar restr fer gwobr barddoniaeth Gymraeg.

Mae Mathew, sy’n Athro Ysgrifennu Creadigol yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, wedi bod ar y rhestr fer ddwywaith ar gyfer y wobr farddoniaeth uchel ei bri, Forward Prize for Poetry.

Yn 2004 cafodd ei enwi yn un o feirdd newydd gorau Prydain gan gymdeithas farddoniaeth The Poetry Society.

Cyhoeddwyd The Mabinogi gan Faber & Faber ac ynddi mae Matthew yn olrhain pedair cainc y Mabinogi - casgliad o hanesion rhyddiaith am ryfel, hudoliaeth, antur a rhamant sydd wedi swyno darllenwyr o bob cwr o’r byd.

Darlithydd mewn daearyddiaeth ffisegol yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yw Dr Hywel Griffiths.

Yn fardd a nofelydd, mae Hywel ac wedi cipio rhai o brif wobrau llenyddol Cymru gan gynnwys y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015 a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch yn 2008.

Detholiad cynhwysfawr a geir yn Llif Coch Awst o gerddi Hywel am Gymru, ei thir a'i hinsawdd, ei chymunedau, ei hanes a'i chwedlau.

Mae gweithiau eraill ar y rhestr fer gan awduron a chanddynt gysylltiadau agos â Phrifysgol Aberystwyth yn cynnwys Gwales gan y gyn-fyfyrwraig Catrin Dafydd, Hen Bethau Anghofiedig gan Mihangel Morgan, cyn-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, a Treiglo gan yr awdur, y bardd a'r dramodydd Gwyneth Lewis sy’n Gymrawd er Anrhydedd.

Caiff gwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru eu gweinyddu gan Llenyddiaeth Cymru a’u cyflwyno’n flynyddol i'r gweithiau Cymraeg a Saesneg gorau ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol mewn tri chategori: barddoniaeth, ffuglen a chreadigol ffeithiol.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Rhestr Fer 2018 yn profi bod awduron Cymru yn parhau i wneud eu marc ar fap llenyddol y byd. Mae’r deunaw teitl a ddewiswyd eleni’n cynrychiol tapestry cymhleith ein gwlad brydferth, ddryslyd. Ewch ati i ddarllen, i ddysgu ac i ddarganfod – mae gwledd yn eich disgwyl.”

Cafodd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2018 ei chyhoeddi ddydd Gwener 11 Mai a chaiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd nos Fawrth 26 Mehefin 2018.