Profiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf drwy lythyrau caru
Dr Sian Nicholas o Adran Hanes a Hanes Cymru fydd yn arwain y prosiect ar effaith y Rhyfel Mawr ar gymunedau Aberystwyth, ac sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
10 Mai 2018
Mi fydd llythyrau caru myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth a’i chariad oedd yn filwr yn rhan o astudiaeth o bwys ar effaith Y Rhyfel Mawr ar bobl a chymunedau Aberystwyth.
Sôn y mae’r llythyrau, sydd mewn casgliad preifat, am gyfeillgarwch a chariad ‘Billy a Dot’ wrth iddynt rannu eu meddyliau ar lyfrau, celf, ffilmiau a syniadau, tynnu coes a dadlau, a disgrifio’u profiadau o’r rhyfel gyda’i gilydd.
Mi fydd y llythyrau yn cael eu dramateiddio fel rhan o brosiect ‘Aberystwyth at War: Experience, Impact, Legacy, 1914-1919’ sydd wedi sicrhau cefnogaeth ariannol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Fe adawodd Dot, myfyrwraig yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ei hastudiaethau i weithio fel nyrs Cysylltiad Cymorth Gwirfoddol.
Hyfforddwyd Billy yn Aberystwyth cyn cael ei anfon i’r Ffrynt Orllewinol a bu farw yn brwydro yn 1917. Treuliodd Dot weddill ei bywyd yn ddi-briod.
Arweinir y prosiect 18 mis gan Dr Sian Nicholas o’r Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth.
Mae Dr Nicholas wedi ymchwilio’n helaeth i Brydain yn ystod y rhyfel ac yn benodol i hanes y wasg Brydeinig yn ystod y gwrthdaro.
Bydd yr astudiaeth hon yn edrych ar effeithiau’r gwrthdaro drwy lygaid myfyrwyr gwirfoddol, cymdeithasau cymunedol hanes lleol a grwpiau perfformio, ysgolion a thrigolion lleol.
Gan ddefnyddio cofnodion, llythyrau, papurau newydd, ffotograffau, celf a cherddoriaeth ffoaduriaid, cofebion rhyfel ac atgofion cofnodedig mewn archifau lleol o gyfnod y rhyfel, mae’r prosiect yn gobeithio dod ag hanesion y rhai ag effeithiwyd ynghyd i greu map rhyngweithiol.
Defnyddir ffynhonnau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau Ceredigion, Amgueddfa Ceredigion, archifau Prifysgol Aberystwyth a mannau cyhoeddus.
Dywedodd arweinydd y prosiect, Dr Sian Nicholas: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer y prosiect. Er bod rhai straeon wedi cael eu clywed, mae llawer o’r straeon eraill yn anghyflawn neu heb eu harchwilio. Ein gobaith yw cyfeirio a chyflwyno’r colledion a’r caledi a brofwyd gan y rhai aeth i ryfel yn ogystal â’r rhai a adawyd ar ôl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i genhedlaeth newydd o bobl.”
Bydd y prosiect yn cynnig cyfleoedd i grwpiau lleol ddehongli dylanwadau’r Rhyfel Byd Cyntaf drwy gelf a pherfformiadau, a datblygu sgiliau archifol, digidol a chreadigol wrth iddynt nodi a dilyn hanes y rhyfel yn Aberystwyth.
Bydd yn cwmpasu storïau’r milwyr a’u hanwyliaid, ffoaduriaid, staff a myfyrwyr y Brifysgol, ymgyrchwyr gwleidyddol a gwrthwynebwyr cydwybodol.
Mae cynlluniau’r prosiect yn cynnwys cynnal perfformiadau, creu map digidol rhyngweithiol agored sy’n cynnwys bywgraffiadau a deunydd fideo, a sefydlu etifeddiaeth gymunedol ar gyfer darganfod a dehongli yn y dyfodol.
Partneriaid y prosiect yw Adran Hanes a Hanes Cymru a Chanolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth, Amgueddfa Ceredigion, Archifdy Ceredigion, Casgliad y Werin CymruLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Gymunedol Castaway a grwpiau treftadaeth lleol.
Bydd Amgueddfa Ceredigion yn dangos Battle of the Somme (1916) a All Quiet on the Western Front (1930) ar 18 Mai 2018.
Battle of the Somme (1916), drysau’n agor am 5.15yh PG £6 / £5
All Quiet on the Western Front (1930), drysau’n agor am 7yh PG £6 / £5
Mae’r dangosiadau’n rhan o arddangosfa Amgueddfa Ceredigion Gobaith yn y Rhyfel Mawr sy’n agor ar 5 Mai 2018.