Hayley Long, awdures a chyn-fyfyrwraig o Aberystwyth, yn ennill Gwobr Tir na n-Og

Hayley Long

Hayley Long

10 Mai 2018

Yr awdures lwyddiannus, Hayley Long, a dreuliodd gyfnod yn neuadd Pantycelyn ac a raddiodd mewn llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Aberystwyth yn 1992 yw enillydd gwobr Tir na n-Og 2018.

Caiff y wobr ei threfu gan Gyngor Llyfrau Cymru ac mae’n ddathliad o’r nofel Saesneg orau i blant ac iddi gefndir Cymreig dilys.

Nofel am ddau fachgen, Dylan a Griff, yw The Nearest Faraway Place gan Hayley Long, a’u hymdrechion i oresgyn damwain drasig sy’n newid eu bywydau am byth.

Mae’r stori yn symud o Efrog Newydd i Aberystwyth, gydag ôl-fflachiau i amryw o leoliadau egsotig ar draws y byd, wrth i’r bechgyn ail-adeiladu eu bywydau.

Daw Hayley o Norwich, ond ei dyddiau fel myfyrwraig yn Aberystwyth ysbrydolodd ei nofel fuddugol, The Nearest Faraway Place.

Bu’n lletya yn Neuadd Pantycelyn er nad oedd yn siarad Cymraeg, ac mae ganddi atgofion melys o’r cyfnod ac o’r warden Dr John Davies, Bwlchllan.

Dywedodd Hayley: “Gwnaeth Aberystwyth argraff ddofn a pharhaol arnaf.  Roedd y daith o Felixstowe yn 9 awr ac rwy’n dal i gofio’r teimlad o ryddhad, hapusrwydd a chyffro wrth weld y Llyfrgell Genedlaethol wedi'i goleuo ar y llechwedd wrth i’r trên dynnu i mewn i orsaf Aber.” 

“Dwi ddim yn meddwl ym mod yn ymwybodol ohonno ar y pryd ond gadawodd y dref a’r brifysgol argraff ddofn arnaf a byddai wastad yn eu caru. A dyna’n union pam bod ail hanner The Nearest Faraway Place wedi ei leoli yn y dref.”

"Yn y bennod gyntaf rwy’n gwneud rhywbeth ofnadwy i fy nghymeriadau ifanc a rhaid iddynt ailgydio yn eu bywydau wedi trychineb enbyd.  Mae’r stori yn un drist ond gwyddwn o'r dechrau ei bod yn cynnwys neges obeithiol. Rwy’n cyflwyno’r cymeriadau i lawer o bethau rwy’n eu caru ac yn eu hadleoli o Efrog Newydd i Aberystwyth er mwyn iddynt adfer eu hunain.

Cyflwynwyd y wobr i Hayley mewn digwyddiad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 9 Mai 2018, fel rhan o gynhadledd Cymru CILIP, Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth.

Ychwanegodd Hayley: “Mae ennill gwobr Tir Na n-Og yn hwb mawr imi ac yn anogaeth i gadw ati i ysgrifennu’r pethau dwi eisiau ysgrifennu. Teimlaf fod arna i ddyled fawr i’r lle. Diolch yn fawr unwaith eto Aberystwyth.”