Penodi tri myfyriwr Prifysgol Aberystwyth yn Lysgenhadon i’r Coleg Cymraeg
09 Chwefror 2018
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2018, a thri ohonynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Myfyrwyr yw’r llysgenhadon sy’n astudio mewn prifysgol yng Nghymru ar hyn o bryd ac sy’n ymgymryd â rhan o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Drwy benodi llysgenhadon, nôd y Coleg Cymraeg yw annog mwy o ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol yn ogystal i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Cynrychiolwyr Prifysgol Aberystwyth am y flwyddyn yw Dylan James, myfyriwr ail flwyddyn Drama ac Astudiaethau Theatr gydag Addysg a Cara Mair Rogers a Huw Llywelyn Jones, myfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy’n astudio Daearyddiaeth.
Dywedodd Dylan James: “Mae cael fy newis fel llysgennad yn golygu llawer i mi, gallaf gynorthwyo, hybu ac annog y darpar-fyfyrwyr i dderbyn eu haddysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Penderfynais y byddem yn ymgeisio am rôl llysgennad pan dderbyniais le yn y Brifysgol. Fel darpar fyfyriwr ar y pryd, fe fu’r Coleg Cymraeg o gymorth mawr i mi wrth benderfynu ar gwrs a phrifysgol, felly roeddwn am roi rywbeth yn ôl iddynt.
“Mae bod yn llysgennad yn rôl hynod bwysig i annog a hybu darpar fyfyrwyr Cymraeg i astudio drwy’r Gymraeg ym Mhrifysgolion Cymru. Byddaf yn mynychu ffeiriau UCAS, eisteddfodau ac yn ysgrifennu blogiau am fy mhrofiadau cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol.
“Mae’r amryw o gyfleoedd a’r profiadau sydd ar gael i lysgenhadon y Coleg Cymraeg yn amhrisiadwy ac rwy’n hynod o ddiolchgar am y cyfle hwn.”
Gellir gweld blogiau’r llysgenhadon ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol https://blog.colegcymraeg.cymru/
Am fwy o wybodaeth am Gangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/ccc/.