Caredigrwydd yn goleuo Aberystwyth
Goleuadau Nadolig a Gorymdaith Lusernau Aberystwyth
29 Tachwedd 2017
Dros y dyddiau nesaf, mewn trefi a dinasoedd ledled y wlad, bydd sêr enwog yn cynnau goleuadau Nadolig.
Yn Aberystwyth, ar ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr, bydd y dasg honno yng ngofal un plentyn arbennig.
Gwahoddwyd ysgolion lleol i enwebu plant sydd wedi dangos caredigrwydd anhygoel, naill ai yn yr ysgol neu yn y gymuned. O'r rhai a enwebwyd, bydd un plentyn yn cael ei ddewis ar hap i helpu Maer Tref Aberystwyth i gynnau’r goleuadau.
Bydd y Parêd Llusernau flynyddol yn gadael Eglwys Sant Mihangel am 5 o’r gloch ar ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr, gan symud tuag at Maes Lowri ac yna i Sgwâr Owain Glyndwr. Bydd y pared yn cal ei arwain gan blant lleol wedi'u gwisg fel Mair a Joseff, a’r dorf sy’n dilyn yn cario eu llusernau hardd.
Bydd adloniant o gwmpas Sgwâr Owain Glyndwr, gyda stondinau marchnad, Groto Siôn Corn, gwasanaeth canu carolau yn yr awyr agored ac adloniant byw.
Trefnir y digwyddiad gan Fenter Aberystwyth, partneriaeth adfywio ar gyfer y dref a'r cyffuniau, sy’n cael ei gefnogi gan Brifysgol Aberystwyth a Chyngor Tref Aberystwyth.
Ar y noson gynt, bydd Clwb Roboteg Aberystwyth yn y Brifysgol, yn cynnal Hacio’r Cerdyn Nadolig. Cynhelir y gweithdy arbennig hwn rhwng 4 a 6 o’r gloch ar ddydd Gwener 1 Rhagfyr yn yr Hen Goleg, ac mae’n addas ar gyfer plant dros 5 oed. Bydd cyfle i ddylunio ac adeiladu cerdyn Nadolig electronig gan ddefnyddio goleuadau a batris LED. Cost y deunyddiau fydd £1 a does dim angen cadw lle o flaen llaw.