Prifysgol Aberystwyth yn croesawu cyn-fyfyriwr ac AS ieuengaf Lithuania
Gwahoddwyd Virginijus, a etholwyd i senedd Lithwania - y Seimas - yn Hydref 2016, yn ôl i Aberystwyth gan Sefydliad Coffa David David yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
29 Medi 2017
Mae aelod ieuengaf senedd Lithwania a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn dychwelyd i Aber heddiw i drafod ei waith.
Graddiodd Virginijus Sinkevičius o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2012 cyn mynd ymlaen i astudio ar gyfer gradd MA ym Mhrifysgol Maastrcht.
Gwahoddwyd Virginijus, a etholwyd i senedd Lithwania - y Seimas - yn Hydref 2016, yn ôl i Aberystwyth gan Sefydliad Coffa David David yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Bydd yn siarad am ei waith yn Ystafell Steve Crichter yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ddydd Gwener 29 Medi 2017, rhwng 5:30 a 6:30 pm.
Dywedodd Jan Ruzicka, Darlithydd mewn Astudiaethau Diogelwch a Chyfarwyddwr Sefydliad Coffa David Davies: “Mae'n wych gallu croesawu Virginijus yn ôl i Aberystwyth ac rydym wrth ein bodd ei fod wedi cytuno i rannu ei wybodaeth a'i brofiad â'n myfyrwyr.
"Does dim angen dweud, mae hwn yn gyfle gwych i'n myfyrwyr ddysgu mwy am yr hyn y gall astudio yn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ei wneud i’w gyrfa a'u cyflogadwyedd.
"Bydd hefyd yn gyfle i siarad am faterion strategol sy'n wynebu gwledydd y Baltig wrth iddynt ymdopi ag adfywiad a bygythiadau Rwsia."
Mae Virginijus yn aelod o Blaid Undeb yr Amaethwyr a’r Gwyrddion, yn gadeirydd y Pwyllgor Economaidd ac yn is-gadeirydd grŵp ei blaid, sef y grŵp plaid mwyaf yn Seimas.
Ar ôl cwblhau ei astudiaethau, dyfarnwyd ysgoloriaeth y Baltic-American Freedom Foundation iddo a bu'n gweithio yn Washington DC yn y Ganolfan Ddadansoddi Polisi Ewropeaidd.
Dychwelodd Virginijus i Lithwania yn 2014 a bu'n gweithio i'r Invest Lithuania fel Pennaeth Materion Rheoleiddiol cyn iddo gael ei ethol.