Gwobrwyo cyn-fyfyrwraig celf mewn cystadleuaeth flaenllaw
'Home 2 - Regeneration': y lithograff gan Gini Wade a enillodd wobr ranbarthol Cymru yng nghystadleuaeth Celf Agored y DU 2016
29 Rhagfyr 2016
Mae’r artist a’r gwneuthurwraig print Gini Wade, a gwblhaodd MA mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Aberystwyth, wedi ennill Gwobr Ranbarthol Cymru yng nghystadleuaeth Celf Agored y DU 2016.
Roedd Gini yn fyfyrwraig ôl-raddedig yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth rhwng 2007 a 2010.
Bu’n arbenigo mewn lithograffeg dan arweiniad Paul Croft ac fe enillodd MA mewn Celfyddyd Gain gyda chlod uchel.
Fe gyflwynodd ddau lithograff - 'Home 1' a 'Home 2 - Regeneration' - i’r gystadleuaeth Celf Agored, a ddenodd at ei gilydd bron i 3,800 o ddarnau o waith.
Wrth esbonio'r cefndir i'r ddau ddarn, dywedodd Gini: "Fy ymateb i'r rhyfel yn Syria oedd Home 1. Fe dreuliais fis braf iawn yno 20 mlynedd yn ôl ac wedi cyfarfod â phobl hyfryd. Mae’r sefyllfa bresennol felly yn peri gofid arbennig i mi. Wrth weithio ar Home 1, daeth atgofion plentyndod yn ôl o’r bomio yn Llundain yn yr Ail Ryfel Byd. Er nad wyf yn ddigon hen i gofio’r bomio, fe glywais lu o straeon dirdynnol pan oeddwn i'n blentyn ac o’r herwydd, mae’r hyn sy’n digwydd yn Syria yn teimlo’n real iawn i mi.
"Cefais y syniad ar gyfer Home 2 wrth groesi parc Mile End yn Nwyrain Llundain - ardal a gafodd ei bomio’n llwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac a fu'n rhan o brosiect adfywio yn dilyn y rhyfel. Amhosib fyddai dweud heddiw bod unrhyw beth wedi digwydd yno - mae'n olygfa heddychlon gyda phlant yn chwarae a mamau’n gwthio pramiau. Mae'n anhygoel pa mor gyflym caiff trawma ei hanghofio ar ôl cenhedlaeth neu ddwy, er bod y sgil-effeithiau yno o hyd."
Dyfarnwyd Gwobr Ranbarthol Cymru i Home 2 ac fe gafodd y gwaith ei ddangos ochr yn ochr â 35 o beintiadau, darluniau, printiau, ffotograffau, murluniau a darnau o gelf ddigidol arobryn yn Oriel Pallant House yn Chichester, lle cafodd y gystadleuaeth Celf Agored Genedlaethol ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl.
Fel enillydd Gwobr Ranbarthol Cymru, fe dderbyniodd Gini wobr o £1,000 ynghyd â phenwythnos o wyliau yng ngwesty Tŵr y Felin yn Nhyddewi oedd yn noddi'r wobr.
Yn sgil ennill y wobr, dywedodd Gini: "Pleser a sioc oedd clywed mod i wedi ennill y wobr. Mae’r arian yn wych, wrth gwrs, a rhoddais hanner er tegwch i helpu ffoaduriaid Syria. Ond nid yr arian yn unig sy’n bwysig. Mae’r gydnabyddiaeth yn hynod galonogol. Hoffem ddiolch i Ysgol Gelf Aberystwyth, lle gwnes fy MA, am fy ngalluogi i ehangu o fod yn ddarlunydd i fod yn artist a gwneuthurwr printiau. Mae diolch arbennig i fy nhiwtor Paul Croft a ddysgodd bopeth am lithograffeg i mi."
Dywedodd Paul Croft, sy’n ddarlithydd Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Aberystwyth: "Mae Gini wedi bod yn llysgennad gwych ar gyfer y grefft o wneud printiau ac yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth gyfan o fyfyrwyr. Ers graddio, mae wedi helpu i boblogeiddio'r arfer o lithograffeg plât a charreg gan ddysgu yng nghanolfan Gwneuthurwyr Print Aberystwyth ac yn y Rodd yng Nghanolfan Sydney Nolan yng nghanolbarth Cymru."
O’i chartref yng Nghanolbarth Cymru, bu Gini yn gweithio fel darlunydd ac awdur llyfrau plant ers blynyddoedd lawer. Mae bellach yn gwneud ei phrintiau ei hun ac yn cynnal gweithdai lithograffeg. Hi yw cyfarwyddwr Gwneuthurwyr Print Aberystwyth ac mae’n cyfrannu erthyglau at gyfnodolyn Printmaking Today.
Mae ei phrintiau yn cael eu cadw mewn casgliadau preifat ar draws y byd, a hefyd mewn casgliadau cyhoeddus gan gynnwys casgliad Llyfrgell Wellcome, y V & A, Amgueddfa Gelf Zuckerman, UDA; Oriel Gelf Ewing, UDA; Sefydliad Celfyddyd Gain Hunan; casgliad Prifysgol Aberystwyth, a chasgliad Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru.