Cymrodoriaeth ymchwil i ddarlithydd o Brifysgol Aberystwyth Mauritius
Dr Dinesh Chuckravanen y tu allan i Brifysgol Aberystwyth Mauritius
28 Rhagfyr 2016
Mae darlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth Mauritius wedi derbyn cymrodoriaeth ar gyfer prosiect ymchwil rhyngwladol ar flinder gwybyddol.
Dros gyfnod o ddeuddeg mis, mae’r Dr Dinesh Chuckravanen yn cydweithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Konya yn Nhwrci.
Dyfarnwyd y gymrodoriaeth fel rhan o gynllun cylchredeg gwybodaeth arbennig sy’n annog ac yn hywluso cydweithio rhwng gwyddonwyr rhyngwladol.
Caiff y cynllun ei gefnogi gan Gyngor Ymchwil Gwyddonol a Thechnolegol Twrci a Chydgronfa Gweithredu Marie Curie sy’n rhan o seithfed rhaglen fframwaith y Comisiwn Ewropeaidd.
Mae’r tîm yn gweithio ar ddadansoddiadau afliniol o weithgareddau electroencephalogram (EEG) mewn ymgais i ganfod biofarcwyr o flinder gwybyddol ymhlith gwirfoddolowyr iach.
Mae'r ymchwil yn cynnwys casglu data EEG dan amodau labordy a hynny o dan oruchwyliaeth niwrolegydd ac uwch ymchwilwyr ym mae niwrowyddoniaeth cyfrifiadurol.
Y nod hirdymor yw datblygu dyfais feddygol i fesur gyda chywirdeb uchel lefelau gwybyddol ymhlith unigolion iach.
Dywedodd Deon Prifysgol Mauritius Aberystwyth, Dr David Poyton: "Rydym yn falch iawn fod Dr Dinesh Chuckravanen wedi sicrhau cyllid i ddatblygu ei ymchwil ar flinder gwybyddol. Mae addysgu a arweinir gan ymchwil yn bwysig iawn i ni yma ym Mauritius ac fel Dr Chuckravanen, mae’r rhan fwyaf o'n darlithwyr yn ymchwilwyr profiadol."
Yn ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Mauritius Aberystwyth, mae gan y Dr Dinesh Chuckravanen MSc (Rhagoriaeth) mewn Prosesu Signal a Pheirianneg Cyfathrebu o Brifysgol Plymouth a gwnaeth ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Northumbria yn Newcastle, y DU.