Myfyrwraig Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn cyhoeddi nofel Gymraeg
Sarah Reynolds
07 Rhagfyr 2016
Mae myfyrwraig o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, wedi cyhoeddi nofel newydd ddoniol am griw o ddysgwyr.
Daw Sarah Reynolds yn wreiddiol o Reigate yn Surrey ac mae’n astudio am ddoethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bu’n dysgu Cymraeg ers saith mlynedd a chyhoeddwyd ei nofel gyntaf yn yr iaith, Dysgu Byw, gan Gwasg Gomer ym mis Hydref 2016.
Mae’r nofel yn dilyn hynt a helynt criw o ddysgwyr mewn dosbarth nos, ac fe’i disgrifiwyd gan y cyhoeddwr fel “romp comig” sy’n “hynod ddoniol”.
Cafodd hefyd ganmoliaeth uchel gan yr awdures a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth, Bethan Gwanas.
Yn ôl Bethan mae’r nofel yn “berl” ac yn “chwa o awyr iach”, a dywedodd ei bod wedi “gwenu, gwingo a chwerthin yn uchel” wrth ei darllen.
Mae’r nofel yn dechrau gyda hanes tiwtor y dosbarth, Siwan James, sy’n dymuno bod yn unrhyw le arall ond yn sefyll o flaen y criw amrywiol o ddysgwyr.
Bu Siwan yn actores ar Pobol y Cwm ar un adeg (nid bod neb yn cofio hynny!) ac mae hi’n dymuno bod yn ôl yn seren ar y sgrin, nid yn gwywo wrth wrando ar bobl yn manglo’r iaith ac yn merwino’i chlustiau.
Mae Sarah nawr yn ysgrifennu nofel newydd - yn Saesneg y tro hwn, a’i gobaith yw gallu plethu’r bywyd ysgrifennu gyda gyrfa academaidd.
Dywedodd: “Ro’n i’n ffodus iawn i gipio ysgoloriaeth i astudio ar gyfer doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol yma ym Phrifysgol Aberystwyth. Dwi ar fin gorffen fy nhymor cyntaf ac yn joio mas draw. Mae pawb yn yr adran wedi bod yn groesawgar iawn. Un uchafbwynt oedd cael taith dywysedig drwy grombil y Llyfrgell Genedlaethol - mae'r lle yn nefoedd i lyfrgarwr fel finnau! Er hynny, wedi gweld y ffilm Y Llyfrgell, ro’n i’n hanner disgwyl dod o hyd i gorff!”
Cyfarfu Sarah â’i gŵr yn Llundain, lle’r oedd y ddau yn gweithio ym myd teledu, a Sarah yn gweithio ar gyfresi fel Big Brother.
Ar ôl priodi, symudodd y ddau i fyw i Gaerfyrddin, ac aeth Sarah ati o ddifrif i ddysgu’r Gymraeg.
“Nes i briodi Cymro Cymraeg... Nes i gwrdd â fe ar blind date yn Llunden, a nath e ddysgu fi i ddweud ‘prynhawn da’ ar y date cyntaf hwnnw, a dyna lle ddechreuodd y cyfan i fi… O’n i’n deall o’r cychwyn pa mor bwysig odd yr iaith Gymraeg iddo fe.”
Cyrhaeddodd Sarah rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 2016, a defnyddiodd beth o’i phrofiadau o ddysgu’r Gymraeg wrth ysgrifennu Dysgu Byw.
Ychwanegodd; “Dyw’r daith ddim wedi bod yn hawdd wrth i fi ddysgu ond dwi wedi chwerthin llawer ar hyd y ffordd. Ro’n i eisiau rhannu peth o’r straeon hynny gyda phobl ynghyd â phrofiadau pobl eraill dwi’n nabod sydd wedi dysgu hefyd.”