Drama fyd-enwog Agatha Christie The Mousetrap yn dod i Aberystwyth
The Mousetrap
30 Tachwedd 2016
Bydd The Mousetrap Agatha Christie yn gorffen cymal olaf ei thaith 60 mlwyddiant hynod lwyddiannus yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yr wythnos nesaf, gyda pherfformiadau o ddydd Llun 5 tan ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr.
Mae The Mousetrap yn enwog ledled y byd am fod y sioe sydd wedi rhedeg hiraf yn hanes y theatr Brydeinig.
Gosodir yr olygfa pan mae criw o bobl sydd wedi ymgynnull mewn plasty yn y wlad yn cael eu carcharu yno oherwydd eira ac yn darganfod, er arswyd iddynt, fod ‘na lofrudd yn eu mysg. Pwy all hwn fod? Fesul un mae’r cymeriadau amheus yn datgelu eu gorffennol drwgdybus ac mae’r gynulleidfa yn cael ei chadw ar bigau drain tan y funud olaf pan mae enw a chymhelliad yr llofrudd yn cael eu datguddio.
Yn ei steil unigryw ei hun mae’r Fonesig Agatha Christie wedi creu awyrgylch o wewyr arswydus a chynllun cymhleth gwych lle mae llofruddiaeth yn stelcian rownd pob cornel.
Agorodd The Mousetrap yn wreiddiol yn y Theatre Royal yn Nottingham ym 1952 gyda Richard Attenborough a’i wraig Sheila Sim yn chwarae’r prif rannau, cyn cychwyn ar ei rhediad cyfredol yn y West End sydd wedi torri pob record. The Mousetrap yw’r cynhyrchiad llwyfan sydd wedi rhedeg hiraf yn y byd erbyn hyn, ac yn ddiweddar dathlodd berfformiad rhif 26,000.
Perfformiadau’r wythnos nesaf yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth fydd y cyfle olaf i weld The Mousetrap wrth iddi orffen ei thaith gyntaf erioed o amgylch y DU.
Bydd sioeau’r hwyr o nos Lun tan nos Sadwrn am 7.30yp, gyda sioeau’r prynhawn ar ddydd Iau a dydd Sadwrn am 2.30yp.
I archebu tocynnau, cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01970 62 32 32 new ewch ar-lein:https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/theatre/agatha-christies-mousetrap
AU38316