Partneriaeth Prifysgol Aberystwyth ag ysgolion yn ennill canmoliaeth uchel mewn gwobrau cynaliadwyedd
Staff Prifysgol Aberystwyth gyda’r wobr Canmoliaeth Uchel yng Ngwobrau Cynnal Cymru. O’r chwith i’r dde: Mary Jacob o’r Tîm E-Ddysgu, Dr Paula Hughes, a’r Athro Jo Hamilton o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.
29 Tachwedd 2016
Mae Menter Partneriaeth Ysgol-Prifysgol sy’n cael ei rhedeg gan Brifysgol Aberystwyth wedi ennill canmoliaeth uchel gan y sefydliad sy’n arwain y maes mewn datblygu cynaliadwy yng Nghymru.
Mae Prosiect Rhwydwaith Cynaliadwyedd Cymru (SusNet), yn bartneriaeth Ysgol-Prifysgol sy’n galluogi disgyblion chweched dosbarth yng Ngheredigion i ymgymryd ag amrywiaeth o fodiwlau academaidd a arweinir gan ymchwil, a gyflwynir gan adrannau ledled Prifysgol Aberystwyth. Er eu bod yn amrywio o ran eu cynnwys, mae pob modiwl yn rhannu themacynaliadwyedd a/neu gyfrifoldeb cymdeithasol. Ariennir y prosiect pedair blynedd gan Gynghorau Ymchwil y DU.
Mae Gwobrau Cynnal Cymru 2016, a drefnir gan Cynnal Cymru, yn dathlu rhagoriaeth mewn cynaliadwyedd, arloesedd ac arweinyddiaeth ledled Cymru. Enillodd prosiect SusNet Prifysgol Aberystwyth ganmoliaeth uchel yn y categori ‘Sefydliad Addysg Bellach/Addysg Uwch Cynaliadwy’.
Eleni cynhaliwyd y seremoni wobrwyo, a noddwyd gan Llŷr Gruffydd AC, yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 17 Tachwedd i gynulleidfa o fusnesau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n gweithio i greu Cymru fwy cynaliadwy.
Dywedodd Dr Paula Hughes, Cydlynydd prosiectSusNet Cymru: “Rydym yn falch iawn bod prosiect SusNet Cymru wedi cael ei gydnabod fel un sy’n cyfrannu at ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i gynaliadwyedd. Trwy rannu ein hymchwil yn y maes hwn gydag ysgolion a cholegau lleol, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i godi proffil cynaliadwyedd ar draws meysydd pwnc ac yn gwneud Cymru’n fwy cynaliadwy.”
Dywedodd Mari Arthur, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru: “Mae Gwobrau Cynnal Cymru yn gyfle perffaith i longyfarch sefydliadau ar eu llwyddiannau bob blwyddyn i wneud Cymru’n fwy cynaliadwy. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a diolch i bob un o’n noddwyr.”
AU37116