Academydd o Aberystwyth i annerch Uwch-gynhadledd Dechnoleg India-DU

Bydd R2-D2, a adeiladwyd gan Stephen Fearn o'r Adran Ffiseg, a model o laniwr taith ExoMars 2020 yn cael eu harddangos gan Brifysgol Aberystwyth yn y Parth Profiad Roboteg

Bydd R2-D2, a adeiladwyd gan Stephen Fearn o'r Adran Ffiseg, a model o laniwr taith ExoMars 2020 yn cael eu harddangos gan Brifysgol Aberystwyth yn y Parth Profiad Roboteg

04 Tachwedd 2016

Bydd y gwyddonydd cyfrifiadurol a’r arbenigwr ym maes Rhesymu Uwch o Brifysgol Aberystwyth, yr Athro Chris Price, yn annerch prif gynhadledd technoleg a gwybodaeth India sydd yn cael ei chynnal yn Delhi Newydd ar 7-9 Tachwedd, 2016.

Trefnwyd yr India-UK Tech Summit fel rhan o Flwyddyn Addysg, Ymchwil ac Arloesi DU-India 2016 a bydd prif weinidogion y DU ac India, Theresa May a Shri Narendra Modi, yn annerch y gynhadledd.

Disgrifiwyd y gynhadledd gan y trefnwyr fel digwyddiad sy’n dwyn ynghyd feddylwyr, pobl fusnes, sefydliadau addysg ac arloeswyr gyda’r mwyaf cyffrous at ei gilydd i drafod dyfodol cydweithio rhwng India a’r DU.

Bydd yr Athro Price yn trafod amcanion roboteg ddeallus mewn sesiwn ar Roboteg ac Ymreolaeth ac yn rhannu llwyfan gyda Phrif Swyddog Technegol Llywodraeth y DU Liam Maxwell ac ymchwilwyr o brifysgolion Leeds a Chaeredin.

Yn ogystal, bydd ymchwil roboteg o Brifysgol Aberystwyth yn cael ei arddangos yn un o chwe Pharth Profiad y gynhadledd.

Bydd model o laniwr Mawrth a fydd yn rhan o daith yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd i’r blaned Mawrth yn 2020, yn cael ei arddangos.

Mae ymchwilwyr o Aberystwyth yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu system gamera ExoMars, PanCam, wrth i’r daith chwilio am fywyd ar y blaned goch.

Ochr yn ochr â'r Lander Mars bydd model manwl o gymeriad eiconig y ffilm Star Wars, R2-D2.

Adeiladwyd yr R2-D2 hwn gan Stephen Fearn o Adran Ffiseg y Brifysgol, ac mae’n cael ei ddefnyddio’n helaeth fel rhan o raglen gwaith allanol hynod boblogaidd y Brifysgol i ysbrydoli pobl ifanc i astudio gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg.

Dywedodd yr Athro Price cyn yr Uwchgynhadledd; "Rwy'n falch iawn o fod wedi cael gwahoddiad i gynrychioli Prifysgol Aberystwyth a’r sector Addysg Uwch yn y DU mewn digwyddiad mor fawreddog.

"Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos peth o'r ymchwil arloesol sy'n cael ei wneud yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac i sefydlu cysylltiadau newydd gyda phrifysgolion a diwydiant yn India."

Mae’r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth ymysg y 15 gorau yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr yn ôl Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2016.

Mae hefyd yn safle 11 yn y DU o ran dwyster ymchwil yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

AU32916