Artist nodedig yn ymuno â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Steffan Jones-Hughes

Steffan Jones-Hughes

03 Tachwedd 2016

Mae curadur, gweinyddwr y celfyddydau ac artist profiadol wedi’i benodi i swydd newydd fel Rheolwr Celfyddydau Gweledol yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Bydd Steffan Jones-Hughes yn ymgymryd â’r swydd ar ôl gweithio am ddeuddeng mlynedd a hanner yn datblygu ecoleg gelfyddydol a diwylliannol Wrecsam, yn gyntaf yn y Ganolfan Argraffu Ranbarthol ac yna yn Oriel Wrecsam.

Yn ystod ei amser gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, bu’n gweithio gydag Oriel Wrecsam wrth iddynt lwyddo i sicrhau buddsoddiad gwerth £2.3m gan Gyngor Celfyddydau Cymru i weddnewid ac adfywio’r dref.     

Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Gareth Lloyd Roberts: “Mae’r Celfyddydau Gweledol wedi bod yn agwedd hynod bwysig o’r gwaith a wnawn yng Nghanolfan y Celfyddydau erioed, ac rydym yn falch iawn bod Steffan, sydd â blynyddoedd o brofiad ac sy’n hynod wybodus am y Celfyddydau Gweledol, yn ymuno â ni ym mis Tachwedd. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ei groesawu i dîm Canolfan y Celfyddydau; gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i ddatblygu ein henw da fel arweinydd yn y maes, gan adeiladu ar lwyddiannau mawr yr adran yn y gorffennol.”

Mae Steffan wedi gweithio i lawer o sefydliadau celfyddydol, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Lloegr, Tate, Whitworth ac Oriel Davies yn ogystal â phrifysgolion yng ngogledd Lloegr. Fel artist mae ganddo waith mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat ac mae wedi arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae hefyd wedi ysgrifennu am y celfyddydau a diwylliant i lawer o gyhoeddiadau.

“Pan oeddwn yn blentyn byddwn yn mynd ar y trên o Borthmadog i Aberystwyth i ymweld â Chanolfan y Celfyddydau, felly rwyf wrth fy modd o gael y cyfle hwn i weithio yno,” meddai Steffan Jones- Hughes.

“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weithio gydag artistiaid a grwpiau diwylliannol wrth ddatblygu rhaglen sy’n adlewyrchu bywiogrwydd y dref a’r cymunedau cyfagos.”

AU29716