Llyngyr y rwmen bellach yn gyffredin iawn yng Nghymru
Aelodau o’r tîm ymchwil sydd wedi bod yn astudio pa mor gyffredin yw llyngyr y rwmen yng Nghymru: (Chwith i’r dde) Yr Athro Peter Brophy, Dr Hefin Williams a Rhys Aled Jones o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.
01 Tachwedd 2016
Mae llyngyr y rwmen (Calicophoron daubneyi) bellach yn gyffredin ar ffermydd Cymru, yn ôl astudiaeth gan wyddonwyr IBERS Prifysgol Aberystwyth sydd wedi bod yn cydweithio â CFfI Cymru.
Cyhoeddir yr astudiaeth heddiw yn y cyfnodolyn Parasitology (gweler isod) ac fe’i hariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaeth Owen Price ar y cyd â CFfI Cymru.
Bu gwyddonwyr yn IBERS (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr ifanc yng Nghymru i ganfod lefelau a nifer achosion o lyngyr y rwmen a ffactorau risg cysylltiedig ar draws Cymru.
Ystyriwyd llyngyr y rwmen fel parasit anghyffredin, ond mae bellach yn broblem sy'n dod i'r amlwg yn y DG a phryn fu’r wybodaeth am pa mor gyffredin yw yng Nghymru hyd yma.
Mae llyngyr yr iau yn barasit tebyg, ac yn un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r diwydiant da byw yn y DG, ac amcangyfrifir ei fod yn costio £300 miliwn y flwyddyn. Cofnodwyd nifer yr achosion o hwn hefyd yn yr astudiaeth.
Llywiwyd prosiect llyngyr y rwmen a’r iau Cymru gan Dr Hefin Williams, Darlithydd yn yr Amgylchedd Amaethyddol gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn IBERS.
Dywedodd Dr Williams; “Mae ein canlyniadau ymchwil yn dangos bod llyngyr y rwmen yn gyffredin iawn yng Nghymru bellach, a chadarnhawyd presenoldeb y parasit ar 61% o'r ffermydd a arolygwyd ar draws y wlad.
“Mae ein hinsawdd yn newid ac mae mwy o law a thymheredd uwch yn arwain at gynnydd yn niferoedd y cynefinoedd ar gyfer y falwen fwd, sydd wedi ei chadarnhau fel prif organeb letyol llyngyr y rwmen yng Nghymru gan yr astudiaeth hon”, ychwanegodd.
Mae prif ganfyddiadau eraill yr arolwg yn cynnwys:
• Canfuwyd fod llyngyr y rwmen yn heintio gwartheg yn fwy cyffredin o gymharu â defaid
• Nifer yr achosion o lyngyr y rwmen yn uwch mewn ardaloedd gorllewinol Cymru o gymharu ag ardaloedd dwyreiniol
• Ni welwyd heintiau trwm o’r ddau barasit ar ffermydd unigol, ac mae’r tîm yn ymchwilio ymhellach i hyn.
Dylai ffermwyr da byw nodi hefyd:
• Ar hyn o bryd nid oes cyffur trwyddedig ar gyfer trin llyngyr y rwmen yn y DG.
• Mae gwybodaeth am wir effeithiau haint llyngyr y rwmen ar iechyd a chynhyrchiant o wartheg a defaid yn parhau i fod yn brin
• Cynghorir ffermwyr i ymgynghori â'u milfeddyg os yw llyngyr y rwmen yn bresennol ar eu fferm
• Mae ardaloedd corsiog neu wlyb, pyllau, ffosydd a nentydd i gyd yn gynefinoedd posibl ar gyfer y falwen fwd sydd felly yn feysydd risg.
• Mae draenio, ffensio a phori cylchdroadol i gyd yn arferion sy'n gallu lleihau'r risg ar y fferm.
Dywedodd Morys Ioan, Cadeirydd Materion Gwledig Cymru CFfI;
"Mae CFfI Cymru yn falch o fod wedi cael y cyfle i gymryd rhan weithredol yn y prosiect pwysig hwn. Mae ymchwil o'r math hwn yn hanfodol i sicrhau llwyddiant ein diwydiant. Datgelodd Dr Hefin Williams rhai canfyddiadau sy’n destun pryder ac rydym yn gobeithio y gellir eu trin gan y sector, ac mae wedi awgrymu camau ar gyfer rheoli llyngyr y rwmen yn fwy effeithiol mewn da byw.”
Dyma’r tro cyntaf i ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth ymwneud yn weithredol â phobl ifanc mewn ymchwil a allai fod o fudd iddynt ar lefel y fferm, tra'n cynorthwyo ymchwilwyr yn y Brifysgol i gynnal ymchwil o werth ehangach i'r diwydiant.
Mae cydweithrediadau ymchwil pellach rhwng gwyddonwyr IBERS a CFfI Cymru ar y gweill.
AU32716