Ethol Athro o Aber yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol

Yr Athro Paul Ghuman

Yr Athro Paul Ghuman

27 Hydref 2016

Mae Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn un o'r prif anrhydeddau yn ei faes ar ôl cael ei wneud yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae’r Athro Emeritws Paul A. Singh Ghuman yn ffigwr blaenllaw ym maes astudiaethau Dde Asia a chanddo ddiddordeb arbennig ym maes cyfle cyfartal a’r problemau sy’n wynebu cymunedau o Dde Asia yn y DU.

Mae'r Cymrodyr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Academi yn cynnwys academyddion, ymarferwyr a llunwyr polisi. Daw’r cydnabyddiaeth yn sgil proses helaeth o adolygu gan gymheiriaid a hynny ar sail rhagoriaeth a’r budd a ddaw i’r cyhoedd oherwydd eu gwaith ym maes y gwyddorau cymdeithasol.

Mae'r rhestr yn adlewyrchu cyfraniadau sylweddol ac arweinyddiaeth mewn addysg uwch, llywodraeth, iechyd cyhoeddus a pholisi cymdeithasol, cynghorau cyllido, sefydliadau elusennol a melinau trafod.

Mae'r Athro Ghuman ymhlith pedwar yn unig o Gymru i gael ei wneud yn Gymrawd ac yn naturiol roedd wrth ei fodd pan glywodd y newyddion.

"Mae cael bod Gymrawd yr Academi yn fraint a dwi’n edrych ymlaen at rwydweithio gyda gwyddonwyr cymdeithasol blaenllaw yn y DU a thu hwnt. Hoffwn ddiolch i fy myfyrwyr ac i Brifysgol Aberystwyth am fy nghefnogi yn fy ymdrechion ymchwil, a'i effaith ar faterion addysgol a chymdeithasol. "

Ym mis Tachwedd 2015, fe ddyfarnwyd Gwobr Hyrwyddo Cyfleon Cyfartal y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig i’r Athro Ghuman.

Fe ymunodd yr Athro Ghuman â Phrifysgol Aberystwyth ym 1971 ac fe'i penodwyd yn Bennaeth yr Adran Addysg yn 2000, swydd y bu ynddi hyd ei ymddeoliad yn 2003.

Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ei lyfr diweddaraf a fydd yn edrych ar bobl hŷn o Dde Asia a'u cyfraniad i'r Gorllewin.