Hyrwyddwr Amrywiaeth Mis Hanes Pobl Dduon
Scratchylus ac Empress Reggae fu'n chwarae gig ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhano Fis Hanes Pobl Dduon 2016.
26 Hydref 2016
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei henwi yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Mis Hanes Pobl Dduon 2016.
Rhoddwyd y wobr i gydnabod gwaith y Brifysgol yn hyrwyddo Mis Hanes Pobl Dduon gyda rhaglen o weithgareddau, yn ogystal â'i hymrwymiad i amrywiaeth yn gyffredinol.
Fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon 2016, caiff trafodaeth banel arbennig ei chynnal am 6.30yh Nos Wener 28 Hydref ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol o dan y teitl ‘HIL - Profiadau Du mewn Addysg Uwch’.
Bydd y drafodaeth yn dechrau gyda chyflwyniad byr gan Dr Kehinde Andrews o Brifysgol Dinas Birmingham sy'n Gyd-Gadeirydd y Gymdeithas Astudiaethau Pobl Dduon a Chyd-Gynullydd Prydain Grŵp Astudio Hil ac Ethnigrwydd y Gymdeithas Gymdeithasegol.
Dr Debra Croft, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth, sy’n cadeirio’r drafodaeth: “Rydw i’n hynod falch ein bod wedi gwneud ymdrech arbennig ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduonon eleni fel rhan o’n Cynllun Gweithredu Cydraddoleb ac, yn benodol, dwi wrth fy modd yn cael cadeirio panel ar bwnc trafod cyfredol gyda grŵp o academyddion o’r radd flaenaf.”
Mae mynediad i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae’n agored i staff, myfyrwyr ac aelodau o'r cyhoedd fel ei gilydd.
'Ailosod y Meddylfryd'
Yn gynharach ym mis Hydref, fe gynhaliodd y Brifysgol gig gyda Scratchylus ac Empress Reggae oedd ar daith ‘Ailosod y Meddylfryd’ o gwmpas prifysgolion y DU.
Mae gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau perthnasol - gan gynnwys dyddiadau allweddol ac Arwyr Du - hefyd yn cael ei harddangos ar draws pob campws drwy gydol mis Hydref.
Dywedodd llefarydd ar ran Mis Hanes Pobl Dduon: "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei dyfarnu’n Hyrwyddwr Amrywiaeth Mis Hanes Pobl Dduon 2016. Rydym wedi gwylio gyda phleser sut mae Aber wedi cynllunio, datblygu a chofleidio Mis Hanes Pobl Dduon a’n thema ar gyfer eleni sef “Ailosod y meddylfryd".
"Maen nhw wedi llunio rhaglen glodwiw a oedd yn cynnwys croesawu taith “Ailosod y Meddylfryd’ gyda Scratchylus a Empress Reggae fel rhan o'u hymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o amrywiaeth a chynhwysiant yng Nghymru. Hoffem ddiolch i’r Brifysgol a llongyfarch Dr Debra Croft, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb y Brifysgol; Lilian Keller o’r Adran Farchnata, a Ruth Fowler o Adnoddau Dynol."
Mae mis Hanes Pobl Dduon yn ddigwyddiad blynyddol a ddechreuodd yn America i fyfyrio ar hanes a diwylliant pobl Dduon a'u heffaith ar wledydd ledled y byd. Ers 1987, mae'n cael ei ddathlu ym mis Hydref yn y DU ac eleni bydd dros 6000 o ddigwyddiadau ar draws Prydain. Mae’n cael ei gynnal ym mis Chwefror yn yr Unol Daleithiau ac roedd eleni yn nodi 90 mlynedd ers ei sefydlu.