Athro yn y Gyfraith yn Aberystwyth wedi'i enwebu i'w ailethol i gorff hawliau dynol Ewropeaidd
Yr Athro Ryszard Piotrowicz
18 Hydref 2016
Mae'r Athro Ryszard Piotrowicz o Ysgol y Gyfraith, Aberystwyth, wedi'i enwebu gan Lywodraeth y DU i wasanaethu am ail dymor yn aelod o gorff Cyngor Ewrop sy'n ymladd yn erbyn masnachu pobl.
Sefydlwyd GRETA, sef Grŵp Arbenigwyr ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl, sy'n gweithio o Strasbwrg, gan Gyngor Ewrop i fonitro cyfreithiau a gweithgareddau gwledydd Ewrop o safbwynt atal masnachu pobl ac o ran cynorthwyo ac amddiffyn dioddefwyr y fasnach.
Etholwyd yr Athro Piotrowicz i GRETA yn wreiddiol yn 2012 ac mae wedi gwasanaethu am dymor pedair blynedd. Yn ystod yr amser hwnnw, mae wedi ymweld â llawer o wledydd Ewrop i asesu sut maent yn cydymffurfio â'r gyfraith ac i wneud argymhellion am gamau ymarferol i'w cymryd i helpu pobl a fasnachwyd.
Rhaid i'r unigolion a enwebir am aelodaeth GRETA fod yn bobl adnabyddus am eu harbenigedd ym meysydd hawliau dynol, cynorthwyo a diogelu dioddefwyr, camau yn erbyn masnachu pobl, neu am fod ganddynt brofiad proffesiynol yn y meysydd sy'n dod o fewn cwmpas Confensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl.
Cafodd Llywodraeth y DU gyfle i enwebu hyd at dri ymgeisydd i wasanaethu o 2016 i 2020. Dewisodd enwebu'r Athro Piotrowicz yn unig.
Yn sôn am ei enwebiad, dywedodd yr Athro Ryszard Piotrowicz: “Rwyf i wrth fy modd o gael fy enwebu i'm hailethol i GRETA. Mae fy ngwaith yn Strasbwrg yn y pedair blynedd diwethaf wedi fy ngalluogi i gael effaith go iawn ar sut mae'r gyfraith yn diogelu dioddefwyr masnachu pobl, sydd wedi dioddef trais a dioddefaint eithriadol gan eu masnachwyr.”
Ac yntau'n hanu o'r Alban, astudiodd yr Piotrowicz ym Mhrifysgolion Dundee, Glasgow, Thessaloniki a Warsaw, yn ogystal ag astudio yn Sefydliad Materion Rhyngwladol Gwlad Pwyl yn Warsaw a Sefydliad Max-Planck y Gyfraith Ryngwladol yn Heidelberg.
Ar ôl cael ei Ddoethuriaeth yn 1987, aeth i fod yn ddarlithiwr ym Mhrifysgol Tasmania, gan aros am ddeng mlynedd ac yn cael ei benodi'n Ddeon ar Gyfadran y Gyfraith.
Cafodd Gadair yn y Gyfraith yn 1999 ac mae hefyd wedi dysgu'r gyfraith ryngwladol ym Mhrifysgolion Glasgow a Durham. Mae'n un o Gymrodorion Alexander-von-Humboldt a bu'n athro gwadd yn y gyfraith ryngwladol mewn sawl gwlad.
Mae'n arbenigo ar gyfraith ymfudo a'r gyfraith ddyngarol ryngwladol, ac ar hyn o bryd mae wrthi'n gweithio'n bennaf ar y materion cyfreithiol sy'n codi o fasnachu pobl.
Mae wedi cynghori cyrff rhyngwladol, llywodraethau cenedlaethol a chyrff anllywodraethol ar y materion hyn. Mae'n aelod o Grŵp Arweinyddiaeth Atal Caethwasiaeth Cymru a bu'n aelod o Grŵp y Comisiwn Ewropeaidd o Arbenigwyr ar Fasnachu Pobl o 2008-15.
Mae'r Athro Piotrowicz wedi gweithio'n eang â sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Sefydliad dros Ddiogelwch a Chydweithredu yn Ewrop (OSCE), Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), Sefydliad Rhyngwladol Ymfudo (IOM) a'r UE.
AU31116