Lansio dwy gyfres ddarllen newydd sbon i blant sy’n dysgu Cymraeg fel ail iaith
Cyfres Moli a Meg (Mynd am dro gyda Moli a Meg i’r gampfa)
17 Hydref 2016
Mae un o gyhoeddwyr adnoddau addysgol mwyaf Cymru, CAA (Cyhoeddwr Adnoddau Addysg), Prifysgol Abertystwyth, yn lansio dwy gyfres o lyfrau ar gyfer plant sy’n dysgu darllen Cymraeg fel ail iaith – Cyfres Moli a Meg a Chyfres Jac a Jes – yn Ysgol Teilo Sant, Llandeilo. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal bnawn dydd Mercher, y 19eg o Hydref.
Bydd awdur y ddwy gyfres, Christa Richardson, sydd hefyd yn athrawes yn Ysgol Teilo Sant, yn darllen rhai o’i llyfrau, a bydd Heather Davies yn cynnal sesiwn zumba hwyliog gyda’r plant i gyd-fynd â themâu un o lyfrau Cyfres Moli a Meg (Mynd am dro gyda Moli a Meg i’r gampfa). Bydd Moli a Meg eu hunain yn bresennol yn y lansiad hefyd!
Cyfres o lyfrau lliwgar a deniadol i blant sy’n dechrau darllen Cymraeg fel ail iaith yw Cyfres Moli a Meg. Yn y gyfres o 8 o lyfrau i blant dan 7 oed, dilynir Moli a Meg (merch ifanc a’i chath) wrth iddynt ymweld â gwahanol leoliadau a fydd yn gyfarwydd iawn i blant – megis y parc, y sinema neu’r caffi.
Yng Nghyfres Jac a Jes, a anelir at blant 7-9 oed, ceir cyfuniad o bedwar llyfr stori bywiog a phedwar llyfr sy’n cychwyn fel stori ond sy’n datblygu i fod yn llyfrau ffeithiol llawn gwybodaeth ddiddorol. Yn y llyfrau ffuglen, dilynir Jac a Jes (bachgen ifanc a’i gi) ar eu helyntion mewn lleoliadau megis yr ogof gudd neu’r goedwig, ac yn y rhai ffeithiol bydd y plant yn dysgu am destunau megis y barcud coch neu batik.
Yng ngeiriau Bethan Davies, Pennaeth Ysgol Comins Coch, ger Aberystwyth:
“Ceir digon o ailadrodd patrymau a geirfa yn y llyfrau hyn, sy’n hanfodol ar gyfer dysgwyr. Mae’r darluniau’n syml ond yn effeithiol yng Nghyfres Moli a Meg, a darluniau Cyfres Jac a Jes yn apelgar ac yn addas iawn ar gyfer yr oedran.
Yn gyffredinol, prin yw’r cyfresi darllen sydd wedi’u hanelu’n benodol at ddarllenwyr ifanc sy’n dysgu’r Gymraeg. Mae’r llyfrau hyn yn sicr yn ateb y gofyn hwnnw a byddant yn adnoddau gwerthfawr i ysgolion sy’n dysgu Cymraeg fel ail iaith.”
Mae CAA yn cynhyrchu deunyddiau print a digidol o ansawdd uchel yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Fe gyhoeddwyd oddeutu 2,500 o gyhoeddiadau ers ei sefydlu ym 1982.