Cnoi Cil ar Ddiwrnod Bwyd y Byd
06 Hydref 2016
Yn rhan o ddiwrnod Bwyd y Byd 2016 mae uwchraddedigion o Athrofa’r Gwyddorau Biolgeol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau dan arweiniad myfyrwyr i hyrwyddo a thynnu sylw at y gwaith a wneir ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn meysydd hanfodol, er enghraifft y newid yn yr hinsawdd, diogelu cyflenwadau bwyd a dŵr, a chynhyrchu bwyd.
Mae Diwrnod Bwyd y Byd yn achlysur blynyddol byd-eang sy’n dathlu Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig gan edrych ar ein hymrwymiad i gael gwared â newyn o’r byd ac ystyried y gwahanol ffyrdd o gyflawni hyn.
Mae rhaglen y digwyddiadau’n dechrau â chyfres o weithdai i ddisgyblion ysgol 15-18 oed. Gan ddechrau’r wythnos nesaf, cynhelir y gweithdai dros gyfnod 4 wythnos i fyfyrwyr o Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth. Thema’r sesiynau hyn fydd ‘Nodau Datblygu Cynaliadwy’, a bydd y myfyrwyr yn cael y dasg o weithio mewn grwpiau i ddatblygu ‘strategaeth diogelu bwyd cynaliadwy’ i nifer o wledydd/rhanbarthau penodol. Ar ddiwedd y gyfres bydd y myfyrwyr yn cyflwyno, a thrin a thrafod eu dewis strategaethau gyda’u cymheiriaid.
Ddydd Sul 16 Hydref 11am-3pm, gwahoddir y cyhoedd i sesiwn agored yn Yr Hen Goleg, Aberystwyth lle bydd arddangosfeydd posteri, trafodaeth ford-gron, sgyrsiau a lluniaeth ysgafn. Themâu’r trafodaethau fydd materion allweddol diogelwch bwyd, cynaliadwyedd bwyd ac iechyd.
Y neges fyd-eang ar Ddiwrnod Bwyd y Byd 2016 yw “Mae’r hinsawdd yn newid. Rhaid i fwyd ac amaeth newid hefyd.” Mater i gnoi cil arno’n bendant.
Os oes gyda chi ddiddordeb i fynd neu i gyfrannu i un o’r digwyddiadau hyn ac yr hoffech ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen digwyddiadau ar Facebook neu cysylltwch â Chris Byrne chb56@aber.ac.uk neu Rebecca Entwistle ree25@aber.ac.uk.