Clinig cyngor cyfreithiol yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth
Emma Williams a Dr Ola Olusanya ar y Adeliad Elystan Morgan yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth
03 Hydref 2016
Bydd modiwl arloesol yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyngor am ddim ar gyfraith teulu i bobl leol.
Caiff cyfres o sesiynau misol eu harwain gan Emma Williams, arbenigwr blaenllaw ar gyfraith teulu a raddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 1996.
Mae Ms Williams wedi arbenigo ar faterion yn ymwneud a chyfraith teulu ers 20 mlynedd gan weithio yn y Deyrnas Unedig yn ogystal a thramor. Mae bellach wedi sefydlu ei chwmni ei hun yn Llandeilo.
O fis Hydref 2016, bydd hi yn adeilad Elystan Morgan yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth a hynny rhwng 4-6yh bob pedwerydd Dydd Mercher o’r mis.
Yn ystod y clinig dwy-awr o hyd, bydd modd i fyfyrwyr ar y modiwl Y Gyfraith a Chyfiawnder Cymdeithasol wylio Ms Williams wrth eu gwaith yn ogystal a chynorthwyo gyda’r gwaith papur.
“Mae myfyrwyr yn wynebu tipyn o her pan maen nhw’n gadael y brifysgol ac yn cael eu cyflwyno am y tro cyntaf i’r gyfraith mewn sefyllfaoedd go iawn,” meddai Ms Willilams.
“Bydd y modiwl arloesol yma yn caniatau iddyn nhw graffu ar gleientiaid go iawn gyda phroblemau go iawn. Bydd hefyd yn cynnig cyngor cyfriethiol fforddiadwy i bobl leol.”
“Ni fydd modd wrth gwrs i fyfyrwyr roi cyngor i gleientiaid – fy nyletswydd i yn unig fydd hynny. Byddan nhw hefyd wedi cael darlithiau am gyfrinachedd cleientiaid. Serch hynny, os nad yw cleient yn dymuno i fyfyriwr fod yn bresennol pan fo’u hachos yn cael ei drafod, yna byddwn i’n parchu eu dymuniadau.”
Mae’r modiwl wedi cael ei ddatblygu gan y Dr Ola Olusanya, sy’n ddarlithydd yn y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Wele gyfle unigryw i fyfyrwyr weld y gyfraith ar waith tra’n asudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ymhellach, bydd natur amlddisgyblaethol y modiwl hwn yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr o ran dysgu sgiliau trosglwyddadwy a chael profiad gwaith dilys fydd yn gymorth mawr pan fyddan nhw’n dechrau chwilio am swyddi.
“Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Emma Williams am ei pharodrwydd i weithio gyda ni ac i rannu eu gwybodaeth eang o faterion cyfraith teulu gyda’n myfyrwyr a’r gymuned ehangach.”
Mae’r Dr Olusanya hefyd yn gweithio gyda mudiadau allanol eraill fel Cyngor Ar Bopeth er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiadau gwaith ym maes y gyfraith a chyfiawnder cymdeithasol yn ystod eu blwyddyn olaf.