Naid Arall i Aberystwyth yn y Good University Guide
23 Medi 2016
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith y dringwyr mwyaf yn rhifyn diweddaraf The Times and The Sunday Times Good University Guide sy’n cael ei gyhoeddi Ddydd Sul 25 Medi 2016.
Mae’r Brifysgol wedi llamu 23 lle yn y tabl ar gyfer 2017.
Prifysgol Aberystwyth sydd ar y brig yng Nghymru o ran rhagoriaeth dysgu a phrofiad myfyrwyr ac yn drydydd yn y tabl cyffredinol ar gyfer holl sefydliadau addysg uwch Cymru.
Ar draws y DU, mae dadansoddiad gan The Times and The Sunday Times Good University Guide yn gosod Aberystwyth ymlith y 10 prifysgol orau o ran rhagoriaeth dysgu ac yn y 19eg safle ar gyfer profiad myfyrwyr. Yng ngeiriau’r cyhoeddwyr, mae’n “drawsnewidiad hynod” o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl.
Wrth ddadansoddi’r data, aiff y cyhoeddiad yn ei flaen i ddweud bod y ffigurau cyflogadwyedd diweddaraf yn dangos bod nifer y myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth mewn swyddi lefel gradd bellach yn 68.2%, o’i gymharu â 53% ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan: “Mae rhifyn diweddaraf The Times and The Sunday Times Good University Guide yn brawf pellach bod Aberystwyth yn lle eithriadol o ran dysgu a byw. Am yr ail flwyddyn yn olynol, rydyn ni wedi cymryd camau arwyddocaol ymlaen yn y tabl cynghrair yma, ac mae’r llwyddiant hwnnw wedi’i yrru gan ansawdd ein dysgu, ein hymchwil safon byd-eang, ein cynlluniau cyflogadwyedd a’n lefelau uchel o fodlonrwydd myfyrwyr. Mae’r ystadegau diweddaraf hefyd yn dyst i waith caled ein staff yma yn Aber ac i uchelgais ein myfyrwyr.”
Mae’r tabl cynghrair yn defnyddio naw mesur perfformiad gan gynnwys bodlonrwydd myfyrwyr o safbwynt ansawdd y dysgu a’u profiad ehangach fel myfyrwyr, answadd yr ymchwil, rhagolygon graddedigion, cymwysterau mynediad myfyrwyr newydd, canlyniadau gradd, y gymhariaeth rhwng nifer y staff a'r myfyrwyr, gwariant ar wasanaethau ac adnoddau, a chyfraddau myfyrwyr sy’n cwlbhau eu cynlluniau gradd.