Bywyd wedi Brexit – y camau nesaf

Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth

Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth

21 Medi 2016

Beth fydd effaith Brexit ar bobl Ceredigion?  Beth yw'r goblygiadau i Gymru? A beth mae'n ei olygu ar gyfer y DU ar y llwyfan rhyngwladol?  

Dyma flas o'r cwestiynau fydd yn cael eu gwyntyllu mewn cyfres o drafodaethau arbennig sy’n cael eu trefnu gan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

O dan y teitl 'Prydain, Ewrop a'r Byd: Beth Nesaf?',  bydd y digwyddiad cyntaf yn cael ei  gynnal  yn yr Hen Goleg ddydd Iau 29 Medi. Y nod yw hwyluso trafodaeth agored ar draws pob sector o'r gymuned ar y materion gwleidyddol, diwylliannol ac economaidd sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig yn dilyn y refferendwm ar yr UE.

Ymhlith y siaradwyr fydd y Dr Alistair Shepherd, arbenigwr ar yr UE a materion Ewropeaidd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol. Mae e’n dweud fod trafodaethau o'r fath yn hanfodol.

"Ers y refferendwm ym mis Mehefin, mae yna ddiffyg eglurder ynghylch yr hyn fydd yn digwydd nesaf ac o’r herwydd mae angen i ni ystyried yn fanwl goblygiadau Brexit yn y tymor byr, canolig a’r hir dymor. Nid ydym yn addo unrhyw atebion pendant ond bydd yn gyfle i ni ddeall yn well sut gallai'r bleidlais effeithio ar gymunedau o fewn ein hardal ni yma yng Ngheredigion a thu hwnt.

"Bydden i'n annog unrhyw un i ddod draw i wrando ar y panel ac i rannu eu barn nhw am effeithiau Brexit a sut mae ymateb yn gadarnhaol."

Dyma fydd y cyntaf mewn cyfres o drafodaethau ôl- Brexit ar y thema 'Negodi Cymunedau Gwleidyddol ' fel mae’r Athro Richard Beardsworth, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yn esbonio.

"Er bod canlyniad refferendwm yr UE wedi gadael y wlad mewn ychydig o benbleth ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd nesaf, mae hefyd wedi codi cwestiynau am drefniadau negodi a sut mae gwneud hynny’n effeithiol ar wahanol lefelau - boed hynny yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol," meddai'r Athro Beardsworth.

"Ein nod gyda'r digwyddiadau hyn yw i graffu ar rai o'r materion yma ac ystyried sut mae ymateb i anghenion cymunedau gwahanol a pha adnoddau sydd eu hangen. Edrychwn ymlaen at gyfrannu ac at glywed ystod eang o safbwyntiau wrth i ni fynd i’r afael â’r pwnc gynyddol bwysig yma.”

Bydd y drafodaeth yn dechrau am 6yh yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, nos Iau 29 Medi ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Y cadeirydd fydd yr Athro Milja Kurki, Cyfarwyddwr Ymchwil a Dirprwy Bennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r panel llawn o siaradwyr yn cynnwys yr Athro Richard Youngs, arbenigwr ar bolisi tramor ac Athro Carnegie Ewrop a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Warwick; y Dr Angharad Closs Stephens, arbenigwr ar Ddaearyddiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol, Prifysgol Abertawe; a'r Athro Andrew Linklater, Dr Alistair Shepherd, Dr Jenny Mathers a’r Athro Richard Beardsworth o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.