Myfyriwr Graddedig o Aberystwyth yn traddodi mewn Cynhadledd Ewropeaidd ar Fridio Planhigion
20fed Cynhadledd Eucarpia yn Zurich
21 Medi 2016
Mae un o raddedigion diweddar Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi rhoi cyflwyniad mewn cynhadledd o bwys ar fridio planhigion a gynhaliwyd yn y Swistir.
Roedd Lucy Slatter – a raddiodd ym mis Gorffennaf 2016 gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Bioleg – yn rhan o 20fed Cynhadledd Eucarpia a gynhaliwyd yn Sefydliad Ffederal Technoleg y Swistir yn Zurich (ETHZ).
Rhoddodd gyflwyniad poster ar eneteg goresgyn yr agweddau atgynhyrchiol sy’n rhwystro planhigion rhag cynhyrchu hadau, sef testun prosiect ei thraethawd hir yn ei blwyddyn olaf.
Yn ystod y gynhadledd - o’r enw Plant Breeding, the Art of Bringing Science to Life - cafodd Lucy gyfle hefyd i gwrdd â bridwyr planhigion a genetegwyr sy’n arwain y maes yn fyd-eang, ac i drafod â hwy.
Mae Lucy bellach yn gweithio fel bridiwr gwenith dan hyfforddiant i KWS (UK) Ltd, cwmni bridio planhigion o’r Almaen sydd â safle yn Thriplow ger Caergrawnt.
Mae ei chyflogwyr yn ei noddi i barhau â’i haddysg ym Mhrifysgol Wageningen yn yr Iseldiroedd, lle y bydd yn gwneud gradd Meistr ar-lein.
Meddai Dr Danny Thorogood, bridiwr planhigion a genetegydd yn IBERS, “Bu’n bleser arolygu prosiect traethawd hir Lucy ac mae’r casgliadau wedi bwrw goleuni amhrisiadwy ar broses sylfaenol mewn planhigion sy’n hynod berthnasol i fethodoleg ymarferol bridio planhigion”.
“Mae Lucy yn aelod o’r dosbarth cynyddol brin hynny o wyddonwyr planhigion ifanc, sydd mor hanfodol i ddiogelu cyflenwadau bwyd ar gyfer poblogaeth y byd sy’n cynyddu o dan amodau hinsawdd cynyddol heriol”.