Penwythnos Chwaraeon i Bobl Ifanc: Blog Beca

Criw o ddisgyblion chweched dosbarth yn mwynhau'r chwaraeon

Criw o ddisgyblion chweched dosbarth yn mwynhau'r chwaraeon

14 Medi 2016

Yn ystod penwythnos 2-4 Medi 2016, daeth 100 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru ynghyd ar gampws Prifysgol Aberystwyth i gael eu meithrin i fod yn hyfforddwyr yng nghlybiau chwaraeon yr Urdd.

Erbyn diwedd y penwythnos, roedd y criw o ddisgbylion chweched dosbarth wedi ennill amryw o gymwysterau chwaraeon fydd yn eu galluogi i gynorthwyo a rhedeg sesiynau yn y dyfodol.  

Dyma beth oedd gan Beca o Lanrug i ddweud am ei phrofiadau hi yn ystod y penwythnos:

“Haia! Fy enw i ydi Beca, dwi’n byw yn Llanrug sydd yn agos i Gaernarfon, dwi’n 16 oed a newydd gychwyn yn y chweched yn astudio Drama, Addysg Grefyddol ac Addysg Gorfforol. 

Ar ddechrau mis Medi, mynychais benwythnos hyfforddi adran chwaraeon yr Urdd. Des i glywed am y penwythnos gan Carwyn, un o swyddogion adran chwaraeon yr Urdd pan ddaeth i’n hysgol ni i hybu’r cwrs. Roedd y cwrs yn swnio’n wych! Aros dwy noson ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda phobl ifanc o bob cwr o Gymru, derbyn cymwysterau hyfforddi plant cynradd, bws i lawr i Aberystwyth a nôl a bwyd! Gyd am £20! Nice one!

Felly gan ddilyn cyfarwyddiadau Carwyn anfonais gais at Urdd ac yn fuan wedyn cefais e-bost yn cadarnhau fy mod wedi cael lle ar y cwrs.

Ar y dydd Gwener yr 2ail o Fedi cyn gadael o Fangor am Brifysgol Aberystwyth, doedd gen i ddim syniad beth i ddisgwyl… Roedd hi’n ddiwedd gwylia haf a fy lefelau ffitrwydd ar eu hisaf felly doeddwn i ddim yn barod am sesiwn dwys , rhedeg elltydd, na phrawf blip, a doeddwn i ddim yn siŵr os oeddwn i hyd yn oed yn cofio sut i ddal beiro heb sôn am ei defnyddio hi.

Doedd dim angen poeni! Doedd dim rhedeg elltydd na darlithoedd boring! Yn fuan wedi cyrraedd cafodd pawb eu rhoi mewn timau. Roeddwn i yn y tîm oren gyda criw o gennod lyfli o Ysgol Gyfun Garth Olwg a daethom yn ffrindiau yn sydyn iawn. Ar ôl i ni fwyta gormod o fwyd yn ffreutur ‘Tamed Da’ ar y campws, aethom syth lawr i ddechrau ar y sialensau Gorchestwyr.

Roedd y gemau Gorchestwyr yn rhedeg trwy’r penwythnos, gyda phob tîm yn ennill pwyntiau. Roedd saith rownd gwahanol - nofio, caiacio, tynnu rhaff ("tug of war"), pêl-fasged, gwibio, “dodge ball” a rygbi tag. Roedd tîm y staff yn HYNOD o gystadleuol! Gallwch weld y lluniau o’r gemau ar Drydar drwy ddefnyddio’r #UrddAber2016. Er nad y tîm oren enillodd y fedal aur ar ddiwedd y penwythnos, cefais lwythi o hwyl yn cymryd rhan yn y gemau. Roedd y gemau yn ffordd wych i ddod i adnabod pobl yn sydyn ac yn goblyn o ‘ice breaker’ da.

Yn amlwg nid oedd y penwythnos i gyd yn llawn gemau – roedd yn rhaid gweithio tuag at ennill y cymwysterau hyfforddi. Derbyniais dri chymhwyster ar ddiwedd y cwrs a bydd y cymwysterau yma yn fy nghaniatáu i i gynnal/cyd-gynnal sesiynau ar ran yr Urdd yn fy nghymuned leol. Dwi’n barod wedi rhoi fy enw lawr i helpu yn y sesiynau pêl rwyd gan mai dyma yw fy mhrif chwaraeon i. Wrth gwrs mae unrhyw gymhwyster yn edrych yn dda ar C.V. ond mae cymwysterau hyfforddi plant yn mynd i agor pob math o lwybrau i mi yn y dyfodol gobeithio, megis cael fy nerbyn i gyrsiau chwaraeon yn y Brifysgol e.e.. Prifysgol Aberystwyth neu hyd yn oed fy helpu cael swydd yn gweithio gyda phlant - neu efallai swydd gyda’r Urdd!

Un o’r pethau gorau am y penwythnos oedd y lleoliad. Cafodd pawb ystafell i’w hunain gyda gwely dwbl ac ystafell molchi gyda chawod! Ar bob llawr roedd yna gegin gyda theledu a soffa yno ble treuliais i a fy ffrindiau newydd ddwy noson gofiadwy yn gwylio teledu a bwyta Doritos ac yfed te. Ma’ ‘na hwyl ‘w gael bois! Diolch Prifysgol Aberystwyth! A diolch Yr Urdd! Roedd o’n class!”