Myfyrwyr Aber yn Creu Gosodiad Celf yn Berlin
Enghraifft o’r strwythur pren a gafodd ei greu ar gyfer gosodiad HALL03
05 Medi 2016
Mae pump myfyriwr o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yn treulio’r wythnos hon (5-11 Medi 2016) yn Berlin fel rhan o brosiect theatrig arloesol, rhyngwladol.
Mae’r myfyrwyr o Aberystwyth yn gweithio gyda phum myfyriwr pensaernïaeth o ysgol Alanus Hochschule yn Bonn i ddylunio ac adeiladu gosodiad perfformiad cyhoeddus yng nghanolfan pensaernïaeth yr Almaen - y Deutsches Architektur Zentrum.
HALL04 yw enw’r prosiect ac mae’n cael ei arwain gan grwp cydweithredol TAAT (Theatr fel Pensaernïaeth, Pensaernïaeth fel Theatre) o’r Iseldiroedd a Gwlad Belg, sy'n defnyddio’r syniad o bensaernïaeth fel theatr i ddod â phobl at ei gilydd.
Mae HALL04 wedi'i gynllunio i fod yn osodiad perfformiad syml o ran ei dechnoleg sy'n gwahodd pobl o bob cefndir i ddod ynghyd i greu darn o theatr heb ddefnyddio geiriau.
Bydd dieithriaid yn mynd i mewn i'r gosodiad fesul dau a bwriad y profiad yw annog rhyngweithio rhwng y parau fydd yn gorfod cyd-drafod heb siarad.
Mewn cwta wythnos, bydd y timau o fyfyrwyr yn gweithio gyda TAAT i adeiladu'r gosodiad mewn gofod arddangos arbennig yng Nghanlofan Bensaernïaeth yr Almaen. Bydd yn agor i’r cyhoedd Ddydd Sadwrn 10 Medi.
Mae’r Dr Andrew Filmer – sy’n Ddarlithydd mewn Drama, Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth –yn arbenigo ar y berthynas rhwng perfformiad a phensaernïaeth.
Ers 2012, bu’n gyd-drefnydd Gweithgor Pensaernïaeth Theatr y Ffederasiwn Rhyngwladol ar gyfer Ymchwil Theatr (IFTR) a’i gysylltiadau rhyngwladol ef sydd wedi arwain at y cyfle hwn i fyfyrwyr.
Roedd TAAT wedi cysylltu gyda’r Dr Filmer a holi a fyddai gan ei fyfyrwyr ddiddordeb bod yn rhan o’r prosiect.
Cynhaliwyd gweithdy deuddydd yn Aberystwyth ym mis Mehefin 2016 i benderfynu pa fyfyrwyr lwcus fyddai’n cael eu gwahodd i fynd i Berlin i ennill profiad amhrisiadwy a sylw rhyngwladol.
Y pump ymgeisydd llwyddiannus oedd Dominika Rau, Roisin Murphy, Benjamin Braithwaite a Kristina Eckern sy’n fyfyrwyr trydedd flwyddyn neu sydd newydd raddio, ynghyd â Jenny Case o’r ail flwyddyn.
Wrth siarad am y prosiect sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Fflandrys, dywedodd y Dr Andrew Filmer: "Mae addysg safonol sy’n cael ei harwain gan ymchwil yn arwain at agor drysau i'n myfyrwyr yma yn Aberystwyth. Rydyn ni am roi cymaint o gyfleoedd â phosib i gynnig profiadau sy'n newid bywyd. Bydd y prosiect hwn yn eu galluogi i ddyfnhau eu dealltwriaeth o arferion artistig cydweithredol ac ennill sylw rhyngwladol am eu gwaith.
"Drwy weithio gyda TAAT, mae’n myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ffyrdd arloesol o feddwl am theatr a phensaernïaeth ac yn cael eu hannog i feddwl am y gwahanol fathau o brofiadau gallent eu creu ar gyfer cynulleidfaoedd.
"Mae'r prosiect hefyd yn adlewyrchu’r pwyslais mae’r Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth yn ei roi ar sicrhau bod addysgu sy’n cael ei harwain gan ymchwil yn rhan annatod o’n cynlluniau gradd ac yn tanlinellu’n traddodiad hir o ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer."
Heb unrhyw actorion nac aelodau cynulleidfa fel y cyfryw, daw’r perfformiwr a’r gwyliwr yn un yn y digwyddiad theatr rhyngweithiol hwn. Yng nghwmni dieithryn, bydd ymwelwyr yn mynd i mewn i strwythur pren 'gor-realiti' ac fe fydd y ddau yn ymgysylltu â'i gilydd wrth symud trwy ddyluniad cymhleth y gosodiad, gan droi ymddygiad cyffredin yn berfformiad digymell.