Penwythnos Chwaraeon i Bobl Ifanc

Pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau'r Urdd

Pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau'r Urdd

30 Awst 2016

Am y tro cyntaf erioed, bydd penwythnos hyfforddi arbennig i bobl ifanc 16 – 18 oed yn cael ei gynnal ar y cyd gan Adran Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.

Rhwng 2-4 Medi 2016, bydd 100 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru yn dod i gampws y Brifysgol i gael eu meithrin i fod yn hyfforddwyr yng nghlybiau chwaraeon yr Urdd.

Ar ddiwedd y penwythnos, bydd y criw wedi ennill amryw o gymwysterau chwaraeon fydd yn eu galluogi i gynorthwyo a rhedeg sesiynau.  Byddan nhw hefyd wedi dod i adnabod y staff chwaraeon lleol, all gynnig sesiynau iddynt yn eu hardaloedd nhw.

Dyma’r weithgaredd diweddaraf i ddeillio o bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Aberystwyth ac Adran Chwaraeon yr Urdd i gynnig cyfleodd newydd ac i hyrwyddo chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg.  

Dywedodd Dewi Phillips, Swyddog Cyswllt Ysgolion a Cholegau Prifysgol Aberystwyth: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn o fod yn brif bartner i Adran Chwaraeon yr Urdd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr ar draws y wlad i ymuno a ni yma yn y Brifysgol am benwythnos i gwblhau amryw o gymwysterau chwaraeon fydd yn help mawr yn eu gyrfaoedd a’u dyfodol.”

“Mae’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan Adran Chwaraeon yr Urdd i bobl ifanc y genedl yn werthfawr iawn ac mae nifer fawr o’n myfyrwyr presennol wedi elwa dros y blynyddoedd oherwydd hyn. Mae’r penwythnos hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael blas ar yr adnoddau chwaraeon heb eu hail sydd gennym yma yn y Brifysgol. Mae rhywbeth i bawb, gan gynnwys cae 3D â llifoleuadau, pwll nofio a sawna, campfa a champfa pwysau rhydd, ystafell sbinio, ystafell ddawns, wal ddringo, a thros 50 erw o feysydd chwarae a mwy.”

Dywedodd Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd, “Rydym yn hynod falch fod ein partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth wedi galluogi i ni gynnig y penwythnos hwn i bobl ifanc.  Er mwyn i’n clybiau cymunedol ffynnu, mae’n rhaid recriwtio pobl ifanc yn gyson i gynorthwyo yn ein clybiau.  Rydym yn hollol ddibynnol ar y criw ifanc, brwdfrydig hyn os am weld ein clybiau yn mynd o nerth i nerth.

“Mae hefyd yn gyfle i ni roi gwybod i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn bod yn arweinydd chwaraeon am ein cynllun prentisiaid.  Bydd gennym 15 prentis newydd yn cychwyn nawr ym mis Medi, gyda phump yn aros am eu hail flwyddyn.”

Lansiwyd y bartneriaeth rhwng Chwaraeon yr Urdd a Phrifysgol Aberystwyth ym mis Ionawr 2016 ac mae hefyd yn cynnwys cyfraniad ariannol gan y Brifysgol i noddi gwisg staff yr adran, cefnogi a datblygu mentrau cymunedol newydd a swyddfa i swyddogion chwaraeon newydd.