Aber yn Cyflwyno Cwrs Cyfieithu Arloesol
30 Awst 2016
Bydd cwrs cyfieithu uwchraddedig arloesol yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf gan Brifysgol Aberystwyth yn yr hydref.
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol – y gorau o’i math ar draws y DU yn ôl arolwg ddiweddar yr NSS – fydd yn darparu’r cwrs mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a phartneriaid yn y diwydiant.
Y gobaith yw y bydd y cwrs arloesol yn helpu i ateb y galw yn y sector am gyfieithwyr sydd wedi’u hyfforddi i safon uchel.
Fel cymhelliant ychwanegol, mae’r cwmni cyfieithu o Gaernarfon, Cymen, yn cynnig ysgoloriaeth a gwarant o swydd am ddwy flynedd i un ymgeisydd rhagorol.
Mandi Morse, Darlithydd Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n egluro sut y bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno: “Un o brif fanteision y cwrs yw ei fod yn hyblyg iawn. Gall myfyrwyr ddewis astudio am gymhwyster Tystysgrif yn unig neu barhau i gwblhau Diploma neu MA llawn. Gall hefyd gynnig hyfforddiant pellach i’r rhai hynny sydd eisoes yn gyfieithwyr ac yn dymuno datblygu’n broffesiynol gan ennill cymhwyster cydnabyddedig ychwanegol wrth wneud hynny.
“Yn ogystal â dysgu am bob agwedd o gyfieithu, mae’r cwrs hefyd yn cynnig cyfle i gael profiad gwaith gwerthfawr yn y gweithle. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliad profiad gwaith byr, ac felly gael profiad ymarferol o’r amodau gwaith a’r disgwyliadau sydd ar gyfieithwyr proffesiynol.
“Dyma’r cwrs cyntaf o’i fath yng Nghymru ac rydym ni’n falch iawn i fod yn cyflwyno rhaglen sy’n diwallu gofynion cymdeithas gynyddol ddwyieithog.”
Bydd y cwrs Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol yn cwmpasu pob agwedd o waith y cyfieithydd proffesiynol yng Nghymru heddiw. Bydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y byd cyfieithu gan roi cyflwyniad i’r diwydiant yn ogystal â chynnig cyfle i ddilyn diddordebau unigol ac arbenigo mewn meysydd megis cyfieithu cyffredinol, cyfieithu deddfwriaethol, technoleg cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
Mae Aled Jones, Cyfarwyddwr cwmni cyfieithu Cymen, wrth ei fodd i gael gweithio mewn partneriaeth gyda’r adran uchel ei bri:
“Rydym ni’n teimlo’n gyffrous iawn am y cwrs newydd hwn gan ei bod yn hanfodol i’r diwydiant ddatblygu cyfieithwyr newydd sydd wedi derbyn hyfforddiant o safon uchel. Hyfrydwch y cwrs hwn yw ei fod, yn ogystal â chynnig cymhwyster academaidd, yn cynnwys elfennau ymarferol gan weithio gyda chyrff proffesiynol fel ni a Llywodraeth Cymru. Mae felly’n sicrhau y bydd gan ymgeiswyr well cyfleoedd gyrfa ar ôl gorffen y cwrs. Bydd ein hysgoloriaeth ni hefyd yn gymhelliant ychwanegol gobeithio - mae ar agor i unrhyw un sy’n ymgeisio a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn derbyn gwarant o swydd ar ddiwedd y cwrs.”
Wrth groesawu sefydlu’r cwrs newydd hwn, dywedodd Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ei fod yn ddatblygiad pwysig ac arwyddocaol: “Trwy ddarparu hyfforddiant sydd wedi’i deilwra’n uniongyrchol i anghenion cyfieithwyr proffesiynol, rydym yn hyderus y daw’r cwrs newydd hwn a budd amlwg i’r diwydiant cyfieithu yng Nghymru.”
Gellir ymgeisio am le ar y Cwrs Cyfieithu Proffesiynol ar-lein a dyddiad cau ysgoloriaeth Cymen yw 31 Awst 2016:https://www.aber.ac.uk/cy/cymraeg/cyrsiauuwchraddedig/cyfieithu/
Yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) diweddar, daeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Aber i’r brig o’i chymharu ag adrannau tebyg yn y DU, gyda’r arolwg blynyddol hefyd yn rhoi sgôr o 100% i’r addysgu, asesu ac adborth a chefnogaeth academaidd.